Mae Lesley Griffiths wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “wrthod adolygu’r fethodoleg ar gyfer cyllido ffermydd”, yn ogystal â “gwrthod rhoi i Gymru’r arian y byddai wedi’i gael yn llawn” pe bai dal yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw hyn wrth i Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru gadarnhau y bydd cyllideb gwerth cyfanswm o £238m ar gael ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2023.

Dyma’r un lefel ag a gafodd ei darparu dros y tair blynedd diwethaf.

Ar ben hynny, bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn parhau i gael ei ddarparu ar y lefel bresennol yn 2024, gyda dyraniad dros dro o £238m.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef fod hynny yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael.

‘Cyfnod anodd’

Dywed Lesley Griffiths fod angen “newid i system newydd o gymorth i ffermydd sy’n decach ac a fydd yn cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy”.

“Mae’r sector amaeth yn wynebu llawer o heriau,” meddai.

“Mae’r rhain yn cynnwys heriau aruthrol lefelau chwyddiant eithriadol o uchel ac effeithiau andwyol cytundebau masnach, ac yn eu plith gytundeb y mae cyn-Ysgrifennydd Amgylchedd y Deyrnas Unedig wedi’i ddisgrifio fel un gwael iawn.

“Gwyddwn fod hwn yn gyfnod anodd.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dro ar ôl tro, wedi gwrthod adolygu’r fethodoleg ar gyfer cyllido ffermydd ac wedi gwrthod rhoi i Gymru yr arian y byddai wedi’i gael yn llawn, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru yn cael £252.19m ar gyfer cymorth amaethyddol yn 2022/23 yn lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae hynny’n golygu bod ffermwyr Cymru wedi colli £106m yn rhagor, ar ben y £137m na ddarparodd y Trysorlys y flwyddyn flaenorol.

“Mae methiant parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig i addasu lefelau cyllido i ddelio â chostau cynyddol yn gwaethygu effaith eu camreolaeth economaidd ar ffermwyr yng Nghymru.

“Mae’r heriau hyn yn tanlinellu eto fyth bwysigrwydd yr angen i newid i system newydd o gymorth i ffermydd sy’n decach ac a fydd yn cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

“Dyna ein nod gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyflwynir yn 2025.”