Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhybuddio am gyflwr dannedd plant, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod 7,500 ohonyn nhw yng Nghaerdydd yn aros i weld deintydd.

Yr un yw’r sefyllfa ledled Cymru, gyda rhestrau aros hirfaith ymhlith pobol ifanc dan 18 oed.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth, mae 7,443 o blant yng Nghaerdydd a’r Fro yn aros am apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Iechyd – dydy’r un bwrdd iechyd arall yng Nghymru’n casglu data o’r fath.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r ffigurau’n cadarnhau bod Cymru’n gweithredu dwy haen o driniaeth ddeintyddol – i’r rhai sy’n gallu talu am driniaeth breifat, a’r rheiny sy’n gorfod aros mewn poen.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi gweithwyr hylendid a nyrsys deintyddol i gyflawni rhagor o ddyletswyddau er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, a gwario’r un swm o arian ar ofal deintyddol â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Maen nhw hefyd yn galw ar holl fyrddau iechyd Cymru i ddechrau cadw cofnodion o’u rhestrau aros.

‘Gwarthus’

“Mae’n warthus fod plant Caerdydd a’r Fro yn cael eu gadael ar restrau aros, gyda’r posibilrwydd fod eu dannedd yn pydru neu eu bod nhw mewn poeni am nad ydyn nhw’n gallu cael deintydd y Gwasanaeth Iechyd,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llywyddu dros system ddwy haen lle mae’r rhain sydd â’r gallu ariannol yn mynd yn breifat, tra bod y rhai sy’n methu fforddio gwneud hynny’n cael eu gadael ar restrau aros anferth, gan gynnwys plant.

“Rhaid mynd i’r afael â’r sefyllfa hon â’r brys mwyaf.

“All Llafur ddim parhau i gymryd plant ein dinas yn ganiataol, neu mae perygl y byddan nhw’n gosod y seiliau ar gyfer iechyd geneuol gwael ymhlith cenedlaethau’r dyfodol, ac yn plannu anghydraddoldeb iechyd ymhellach fyth.

“Mae angen i ni weld deintyddion i bawb, waeth beth yw eich cefndir economaidd.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ehangu’r gwaith i’w gwblhau gan weithwyr hylendid a nyrsys deintyddol, cam fyddai’n cael effaith sylweddol ar leihau rhestrau aros.

“Rydyn ni eisiau i arian go iawn y pen ar gyfer deintyddiaeth yng Nghymru godi i’r un lefel â’r Alban a Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael â’r broblem yn y tymor hir.

“Rhaid i ni beidio â galluogi cenhedlaeth gyfan o bobol ifanc gael eu methu wrth gael mynediad at ddeintyddiaeth.”