Mae’r posibilrwydd o adeiladu trydedd bont dros y Fenai wedi derbyn croeso gofalus gan Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 15) eu bod yn “debygol iawn” o adeiladu trydedd bont dros y Fenai erbyn 2030.

Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y byddai’r prosiect yn costio £400m, a’r gobaith yw dechrau’r gwaith adeiladu yn 2027 a’i gwblhau erbyn 2029/30.

Cafodd Pont Menai ei chau ar Hydref 21 er budd diogelwch y cyhoedd, ar ôl i risgiau difrifol gael eu nodi gan beirianwyr strwythurol.

Mae hynny yn golygu mai dim ond un croesiad sydd ar agor rhwng yr ynys a’r tir mawr ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, er gwaetha’r ffaith fod y prosiect yn “debygol iawn” o gael ei gyflawni, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes “ymrwymiad ffurfiol” i wneud hynny.

“Rhwystredigaeth”

Er bod Llinos Medi yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ystyried adeiladu pont newydd, mae hi’n wyliadwrus o’r ffaith fod trigolion Ynys Môn “wedi bod yma o’r blaen”.

“Mae o’n rywbeth rydan ni wedi bod yn galw amdano fo ers blynyddoedd oherwydd y pryderon am wydnwch ein cysylltiad ni â’r tir mawr,” meddai wrth golwg360.

“Yn amlwg mae beth sydd wedi digwydd gyda Phont y Borth wedi amlygu’r rheswm rydan ni’n galw amdano fo.

“Felly rydan ni’n falch ei fod o bellach yn cael ei ystyried, ond ddylia ei bod nhw wrthi yn ei hadeiladu hi erbyn rŵan.

“Mae yna rwystredigaeth oherwydd fe gawson ni’r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn eistedd ar y Fenai efo rhyw ddatganiad mawr (am gynlluniau ar gyfer adeiladu pont newydd) nifer o flynyddoedd yn ôl.

“A dyna ydi’r pryder, rydan ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen efo’r Llywodraeth a dydyn nhw ddim wedi gweithredu.

“Felly rydan ni angen sicrwydd bod hwn yn mynd i fynd yn ei flaen fel ein bod ni ddim yn y sefyllfa yma eto.”

Busnesau Porthaethwy’n dioddef

Un o ofidion pennaf Llinos Medi yw effaith cau Pont y Borth ar fusnesau ym Mhorthaethwy.

“Mae’r sefyllfa fel y mae hi rŵan yn effeithio Porthaethwy yn ofnadwy,” meddai.

“Rydan ni fel awdurdod mewn cysylltiad cyson gyda’n nhw, yn cynnal cyfarfodydd ac anfon holiaduron ac ati ac mae’r adborth yn dod yn ôl yn glir gan fusnesau bod effaith cau’r bont yn fawr iawn.

“Ac rydan ni gyd yn ymwybodol bod y tymor yma yn hanfodol er mwyn helpu’r busnesau drwy gyfnod distaw’r gwanwyn, ac mi fydd tymor y gwanwyn yn ddistawach byth yn sgil y sefyllfa economaidd.

“Dyna pam ein bod ni mewn cysylltiad rheolaidd ac yn casglu’r dystiolaeth, er mwyn i ni allu mynd at y Llywodraeth a sicrhau fod yna gefnogaeth yn dod i’r busnesau yna.

“Gwirionedd y sefyllfa, does dim rhaid i ni fod yn fan hyn.

“Mae o’n ofnadwy o rwystredig ac yn anffodus weithiau mae’n rhaid i’r eithafol ddigwydd cyn i rywun wneud rhywbeth amdano fo.”

‘Sefyllfa unigryw’

Mae pob prosiect adeiladu ffyrdd wedi’i atal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd gan eu bod yn cynnal adolygiad i asesu sut fyddai gwahanol gynlluniau yn cyd-fynd â’u strategaeth amgylcheddol.

Fodd bynnag, mae Llinos Medi yn mynnu bod Ynys Môn mewn “sefyllfa unigryw”.

“Dim ots pa fath o drafnidiaeth fyddi di’n ei defnyddio, mi fyddi di angen y cysylltiad efo’r tir mawr i’r ynys,” meddai.

“Felly mae hwn yn hanfodol os fyddi di ar feic, ar droed, ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu mewn car trydan, mi fyddi di angen y cysylltiad yna.

“Mae’n bwysig bod yr ystyriaeth yna’n cael ei roi i’r cynllun yma oherwydd mae o’n hollol unigryw.

“A hefyd, mae’n rhaid i ni gofio pwysigrwydd hwn o ran y cysylltiad â’r porthladd yng Nghaergybi a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n gallu cryfhau’r economi drwy’r porthladd yng Nghaergybi yn cael ystyriaeth hefyd.”