Mae cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol S4C wedi gofyn i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (National Audit Office) ymchwilio i’r sianel deledu Gymraeg.
Mewn llythyr agored at Gareth Davies, yr Archwilydd Cyffredinol, mae Gwyn Williams yn amlinellu nifer o achlysuron lle mae’n honni bod y sianel wedi torri ei pholisïau caffael ei hun.
“Mae S4C yn y sefyllfa freintiedig o dderbyn bron i £90m o arian cyhoeddus bob blwyddyn,” meddai’r llythyr.
“Gyda hynny daw’r cyfrifoldeb i wario’r arian yn effeithiol ac yn dryloyw.
“Yn anffodus ers dechrau’r flwyddyn hon rwy’n ofni bod sawl achlysur lle nad yw hyn wedi bod yn wir.”
Efrog Newydd
Yn ei lythyr, mae Gwyn Williams, a adawodd y sianel ym mis Tachwedd, yn amlinellu nifer o feysydd sy’n peri pryder, gan gynnwys cyngerdd a gynhaliwyd yn Efrog Newydd.
Cafodd ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ ei chynnal yn rhan o raglenni dathlu Cymru yng Nghwpan y Byd y sianel.
“Rwy’n gofyn i chi ymchwilio i’r holl gytundebau sy’n ymwneud â digwyddiad S4C yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd 2022,” meddai yn ei lythyr.
“Er y bydd S4C yn dadlau bod comisiynau ar gyfer rhaglenni darlledu sy’n deillio o gwmnïau cynhyrchu wedi’u heithrio o’u polisi caffael, mae’n iawn fod y penderfyniad i ofyn yn rhagweithiol i un cwmni penodol lunio rhaglen unigol a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gostio dros £750,000, fod yn agored i graffu gan y cyhoedd ac y dylai ufuddhau i weithdrefnau caffael S4C ei hun.”
Cyn y gyngerdd, cafodd golwg y cyfle i holi am nifer y staff fyddai’n teithio i Efrog Newydd, yn dilyn cwestiynu Prif Weithredwr S4C ar Newyddion S4C wythnos ynghynt.
Dywedodd llefarydd S4C wrth golwg na fyddai yna “wariant enfawr” ar y cyngerdd yn America – ond nid oedd y sianel am ddatgelu’r gost o’i chynnal, a hynny am nad yw “yn rhannu costau cynyrchiadau unigol gan ei fod yn wybodaeth fasnachol sensitif”.
Er hynny, roedd y sianel yn barod i ddatgelu fod pump aelod o staff yn Efrog Newydd.
Ond roedd Gwyn Williams ar ddeall bod mwy yno.
“Dealltwriaeth fi yw bod naw o bobol wedi mynd allan yna,” meddai wrth golwg360.
“(A) mae hyn yn gwbl groes i’r hyn a ddywedwyd wrth golwg a (b) yn eithaf lot o bobol.
“A hefyd, dw i’n meddwl oherwydd bod hwn wedi’i drefnu ar y funud olaf, roedd costau rhai o’r bobol yma i fynd allan yna yn anhygoel o ddrud.
“Beth oedd mor allweddol bwysig fod rhaid i’r rhai ychwanegol fynd?
“Un pwll o arian sydd gan S4C, felly os ydi’r arian yn cael ei wario ar dripiau i Efrog Newydd, dydi o ddim yn cael ei wario ar raglenni a dramâu yng Nghymru.
“Fysa ti wedi cael cyfres ddigon diddorol am £750,000 a fysa’r pres yna wedi mynd i gwmni cynhyrchu yng Nghymru.”
Ar ôl holi S4C, fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan fod chwe aelod o staff wedi bod draw yn Efrog Newydd, yn ogystal â dau Newyddiadurwr Digidol, ond roedden nhw’n “annibynnol o staff S4C”.
Mae golwg360 wedi gofyn i S4C gadarnhau ai’r sianel oedd yn gyfrifol am gostau’r Newyddiadurwyr Digidol.
Popeth wedi digwydd yn y ‘tywyllwch’
Rhywbeth arall fu’n peri gofid i Gwyn Williams yw’r cytundebau ar gyfer gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu yn ogystal ag ymdrechion posibl i osgoi gweithdrefnau caffael y sianel ei hun.
“Mae gan y sianel bolisi caffael er mwyn sicrhau bod y trethdalwr yn cael gwerth am arian,” meddai wedyn.
“Does yna ddim byd o’i le o ddefnyddio cwmnïau allanol ar gyfer cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol ac ati, ac mae S4C wedi gwneud hynny’n aml dros y blynyddoedd.
“Fy honiad i ydi nad oes yna ddim tendro cystadleuol, does yna ddim profi gwerth am arian wedi bod.
“Mae’r cwmnïau yma jest wedi cael y cytundebau, a rheiny am filoedd.
“Os ydi rhywun yn mynd at S4C gyda syniad am raglen, yn amlwg dydyn nhw ddim yn rhoi hwnna allan i dendr.
“Ond os fyddai S4C yn gofyn i gwmnïau ‘Rydan ni eisiau rhywun i wneud y math yma o beth’, fel arfer mae hwnna’n mynd allan i dendr ac wedyn mae cwmnïau yn rhoi cynnig amdano fo, ac wedyn mae o’n cael ei ddyfarnu ar sail triniaeth greadigol o sut mae’r cwmni yna’n mynd i ddelio efo fo, ac yn ail y pris.
“Fy honiad i, yn achos y daith i Efrog Newydd, wnaeth y naill na’r llall ddigwydd a chafodd y cwmni yma’r gwaith o gynhyrchu a threfnu, a’r holl waith trefniadau, heb unrhyw broses dryloyw a phrofi gwerth am arian.”
Ond ym Mholisi Caffael y sianel, maen nhw’n dweud: “Mae’r dulliau caffael a ddefnyddir gan S4C yn ddibynnol ar werth y cytundeb yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, bydd egwyddorion allweddol S4C o dryloywder, atebolrwydd, cydraddoldeb, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a phroffesiynoldeb yn cael eu defnyddio ym mhob achos.”
“Y tryloywder sydd wrth wraidd fy nghwyn i,” meddai Gwyn Williams wedyn.
“Does yna ddim byd o’r pethau yma’n dryloyw.
“Maen nhw i gyd wedi digwydd yn y tywyllwch.”
Y cam nesaf
Mae llythyr Gwyn Williams yn mynd yn ei flaen i ofyn bod yr Archwilydd Cyffredinol yn mynnu bod Prif Weithredwr S4C yn sefyll o’r neilltu tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, er mwyn i staff S4C “fod mewn sefyllfa i siarad yn rhydd a heb fygythiad i gynorthwyo eich gwaith”.
“Dw i eisiau iddyn nhw ddod i benderfyniad a ydi’r arian yma wedi ei wario’n gywir? Ydi’r cytundebau yma wedi eu gosod yn unol â Pholisi Caffael S4C?” meddai.
“Ac os ydi o, dyna fo.
“Os dydi o ddim, mae yna le wedyn i Fwrdd S4C ystyried y peth ymhellach.”