Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd eira a rhew i’r rhan fwyaf o Gymru dros y penwythnos, gyda disgwyl i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt.
Mae rhybudd tywydd melyn newydd ar gyfer dydd Sul (Rhagfyr 18) yn y rhan fwyaf o’r canolbarth a’r gogledd heblaw am ardaloedd yr arfordir.
Bydd cyfnod o eira yn arwain at rywfaint o anghyfleustra i deithio a gweithgareddau eraill, meddai’r Swyddfa Dywydd, ond bydd yn toddi’n gyflym y diwrnod canlynol.
Maen nhw’n rhybuddio am:
- oedi teithio posib ar ffyrdd;
- colli trydan mewn rhai cymunedau gwledig
- toriadau pŵer, gyda’r potensial i effeithio ar wasanaethau eraill
- y posibilrwydd o anafiadau yn sgil llithriadau a disgyn ar arwynebau rhewllyd
Mae’r rhybudd yn para rhwng 3yb a 9yh ddydd Sul.
“Mae disgwyl i fand o eira symud tua’r gogledd-ddwyrain ar draws y Deyrnas Unedig ddydd Sul yn y rhan fwyaf o lefydd gan bara dwy i bedair awr cyn troi at law,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Bydd ardaloedd yn ne-orllewin yn cael eu heffeithio gyntaf.”