Mae crefftwraig sydd â chefndir yn y byd iechyd a meddygaeth wedi dechrau cyfuno’i dau faes diddordeb i greu gweithiau celf unigryw i’w gwerthu ar drothwy’r Nadolig.
Roedd gan Laura Cameron stondin yng Ngŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion ar ddechrau’r mis, lle’r oedd cyfle i gwmnïau bach lleol arddangos ystod o gynnyrch Cymreig o safon – o fwyd a diod i anrhegion – ar drothwy’r Nadolig.
Yn wreiddiol o Gaeredin ond yn byw yn y gogledd, cafodd ei busnes Lost in the Wood ei sefydlu yn 2013.
Mae ganddi gefndir ym meysydd y llywodraeth a’r gwasanaeth sifil, y sector manwerthu, yn ogystal â meddygaeth, iechyd cyhoeddus a hyrwyddo iechyd.
Mae ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan hanes meddygaeth, y corff, iechyd cyhoeddus, tacsidermi, chwedlau, troseddau hanesyddol a bwydydd ffug.
Rhannau’r corff a chlefydau heintus
Wrth gyfuno dau faes diddordeb sydd ganddi, mae Laura Cameron yn crosio organau a rhannau’r corff, a hithau’n arbenigo mewn anatomeg, ffisioleg, bwyd a gofal iechyd.
Yn fwy diweddar, a ninnau wedi byw trwy bandemig, mae wedi datblygu diddordeb mewn clefydau heintus gan ddechrau gwneud amrywiaeth o ddysglau petrie.
Trwy ei gwaith mae hi’n ymgysylltu ac yn cyfleu ei diddordeb mewn hanes meddygol, gwyddoniaeth a microbioleg.
14 o flynyddoedd yn ôl, gwnaeth hi radd mewn Maeth Iechyd Cyhoeddus a hyfforddodd i fod yn ddietegydd am dair blynedd.
“Mae’r organau a’r petrie dishes yn ffyrdd o gyfathrebu gwyddoniaeth trwy gelf a chymryd pethau sydd wedi’u cuddio naill ai oherwydd eu bod yn ficrosgopig neu wedi’u cuddio y tu mewn i’ch corff,” meddai.
“Rwy’n eu gwneud yn weladwy, yn lliwgar ac yn ddeniadol.
“Gall pobol weld y pethau maen nhw’n gweithio arnynt neu’n eu hastudio, neu gallan nhw gael syniad o sut olwg sydd ar wahanol glefydau.
“Gallwch weld sut olwg sydd ar syffilis neu firysau amrywiol.
“Mae’r rhain yn bethau y cewch frechiadau ar eu cyfer, fel polio neu’r frech goch.
“Rwyf yn eu cymryd ac yn eu gwneud yn fawr a lliwgar.”
Poblogrwydd y gwaith
Mae ei harddull yn hynod unigryw, felly a oes marchnad ar gyfer gwaith o’r math hwn?
Yn ôl Laura Cameron, mae’r gwaith yn apelio’n benodol at bobol sy’n gweithio ym maes iechyd a gwyddoniaeth.
“Mae yna farchnad eithaf mawr ar gyfer hynny o gwmpas fan hyn, oherwydd mae yna lawer o feddygon, gwyddonwyr ac addysgwyr,” meddai.
“Mae’n boblogaidd gyda microbiolegwyr, nyrsys iechyd rhywiol, gwyddonwyr, meddygon a phobol mewn diwydiannau diogelwch.
“Mae’n niche.
“Pan fydd rhywbeth yn arbenigol, mae pobol yn syrthio mewn cariad â’r gwaith ac yn hapus i dalu.
“Gwn na fyddaf byth yn gyfoethog yn gwneud y gwaith rwy’n ei wneud, nid yw at ddant pawb ac rwy’n gyffyrddus â hynny.
“Penderfynais fod hynny’n iawn amser maith yn ôl.
Y grefft
Cyfrinach safon gwaith Laura Cameron yw ei bod yn mwynhau, yn dyfalbarhau ac yn abrofi.
Hi sy’n creu’r patrymau i gyd ar gyfer y gwaith mae hi’n ei werthu, ac mae hi hefyd yn ffeltio nodwydd ar adegau.
“Weithiau dwi’n meddwl fy mod i’n gwneud pethau i ddifyrru fy hun!” meddai.
“Mae’n hyfryd cael adborth da a phan fydd pobol yn prynu’ch gwaith, mae’n gyffrous.
“Mae yna lawer o bethau nad ydyn nhw’n gweithio.
“Mae crosio yn oddefgar, ti’n gallu ei rwygo os nad yw’n mynd yn y siâp cywir, ti’n gallu freestyle-io.
“Gallwch wneud pethau’n fwy ac yn llai a dod ag ymylon i mewn, mae’n addas iawn ar gyfer darnau cerfluniol.
“Gallwch chi newid lliwiau a phatrymau.
“Dw i ddim yn gwerthu unrhyw beth mae pobol eraill wedi ysgrifennu patrwm ar ei gyfer, ond efallai y byddaf yn defnyddio patrwm rhywun arall i ddysgu techneg newydd.
“Rwy’n arbrofi a cheisio peidio mynd yn rhwystredig. Weithiau byddaf yn rhoi’r gorau i grosio ac yn gwneud ffeltio nodwydd.
“Dim ond trywanu’r ffelt yw ffeltio nodwydd.
“Mae’n ymwneud â gwybod beth rydych chi ei eisiau ei gynhyrchu a gwneud pethau i safon uchel.
“Rwyf am i’r crosio naill ai fod yn realistig neu’n dynn.”
Ei thaith fel crefftwraig
O ran cefndir, dechreuodd Laura Cameron grosio oherwydd ei bod eisiau gwneud darnau cerfluniol.
Roedd ganddi ddiddordeb mewn tacsidermi ffug, felly gwnaeth bennau anifeiliaid a chrosio bwyd.
“Pan ddechreuais i grosio, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud darnau cerfluniol – dyna ble mae’r syniad celf tecstilau yn dod,” meddai.
“Yn wreiddiol, roedd gen i ddiddordeb mewn tacsidermi ffug, felly gwnes i bennau anifeiliaid ar darianau – cwningod, moch daear a llwynogod, anifeiliaid Prydeinig.
“Rhain mae pobol yn hoffi eu gweld.
“Rwy’n ei alw’n woollydermi.
“Rwyf wrth fy modd â bwyd ffug, felly roeddwn i eisiau gwneud bwyd ffug realistig.
“Does dim cyrsiau ar gyfer hynny y tu allan i Japan, felly penderfynais wneud bwyd nad yw’n realistig allan o grosio.”