Neuadd Yarloop (Llun Orderinchaos CCA3.0)
Fe gafodd 95 o dai eu dinistrio mewn un pentref yng Ngorllewin Awstralia wrth i danau gwyllt losgi’n ddireolaeth.

Mae tri o bobol ar goll ym mhentref Yarloop o fewn 85 milltir i ddinas Perth ar ôl i fellt daro daear sych iawn.

Mae tua 120,000 o erwau o dir eisoes wedi eu llosgi ac mae Yarloop wedi colli un o bob tri o’i adeiladau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys nad oedden nhw wedi llwyddo eto i reoli’r tân.