Un o'r timau achub yn dod o hyd i gorff dynes ar draeth yn Ayvalik, Twrci
Mae o leiaf 21 o ffoaduriaid wedi boddi oddi ar arfordir Twrci ar ôl i ddau gwch droi drosodd mewn dyfroedd garw mewn dau ddigwyddiad ar wahân.
Roedd y ddau grŵp yn ceisio cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg, Lesbos, yn ôl yr awdurdodau.
Roedd naw corff wedi eu canfod ar draeth yn nhref Ayvalik yn Nhwrci yn gynnar bore dydd Mawrth ac mae gwylwyr y glannau wedi body n chwilio’r môr a’r tir am unrhyw oroeswyr posibl.
Yn ddiweddarach yn y bore, roedd nifer y meirw wedi cyrraedd 14, ac roedd saith ffoadur naill ai wedi cael eu hachub neu wedi’u canfod yn fyw, yn ôl gwylwyr y glannau yn Nhwrci.
Oriau yn ddiweddarach, fe wnaeth yr asiantaeth newyddion Dogan ddweud bod saith o gyrff eraill wedi’u canfod ar draeth yn Dikili, tref sydd tua 30 o filltiroedd i’r de o Ayvalik.
Y gred yw bod y rhain yn perthyn i gwch arall ac yn ôl yr asiantaeth, roedd y meirw yn cynnwys plant.
Roedd tua 850,000 o fewnfudwyr a ffoaduriaid wedi croesi i Wlad Groeg y llynedd, gan dalu gangiau i’w smyglo draw o Dwrci mewn cychod bregus.
Mae’r Sefydliad Rhyngwladol dros Fewnfudo yn amcangyfrif bod 3,771 o bobol wedi marw wrth geisio croesi Môr y Canoldir i Ewrop y llynedd.