Jonathan Edwards AS
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o “ddifaterwch llwyr” am “beidio” â chondemnio gweithredoedd Saudi Arabia yn gyhoeddus.
Daw sylwadau Jonathan Edwards o Blaid Cymru ar ôl i 47 o garcharorion gael eu dienyddio yn y deyrnas, gan gynnwys y clerigwr Shiaidd blaenllaw, Sheikh Nimr al-Nimr.
Dyma’r nifer fwyaf i gael eu dienyddio ar yr un pryd yn Saudi Arabia ers degawdau. Roedden nhw wedi’u cyhuddo o gymryd rhan mewn gweithredoedd brawychol.
Ystyried perthynas ‘agos’ Prydain â Saudi Arabia
Yn dilyn y dienyddio, mae’r AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi galw ar Llywodraeth San Steffan i ail-ystyried ei pholisi tramor â Saudi Arabia, gan bwysleisio bod angen “agwedd gyson” tuag at hawliau dynol os yw’r frwydr yn erbyn brawychiaeth am gael ei hennill.
“Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried ar frys goblygiadau eu perthynas agos â Saudi Arabia gan eu herio ar eu polisi i dawelu rhyddid barn ac atal hawliau sifil a gwleidyddol sylfaenol,” meddai Jonathan Edwards.
“Mae amharodrwydd Llywodraeth y DU i gondemnio gweithredoedd Saudi Arabia yn gyhoeddus yn ogystal â’u hamharodrwydd i erfyn ar y gyfundrefn Saudi i roi’r gorau i hyrwyddo ideoleg grefyddol eithafol Swnni yn annealladwy ac yn groes i’w hymgais i fynd i’r afael â brawychiaeth Islamaidd.
“Y peth lleiaf y dylai Llywodraeth y DU ei wneud yw tynnu nôl ei chefnogaeth i Gadeiryddiaeth Saudi Arabia o Banel Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.”
Peidio cynnwys Saudi Arabia ar restr y gosb eithaf
Yn y cyfamser, mae’r Swyddfa Dramor wedi amddiffyn y ffaith nad yw Saudi Arabia wedi’i chynnwys ar ei rhestr o wledydd lle dylid annog dod â’r gosb eithaf i ben.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chyhoeddi yn 2011, yn cynnwys gwledydd fel Iran a Belarws, fel gwledydd lle fydd Prydain yn gweithio tuag at helpu i ddod a’r gosb eithaf i ben.
Ond dydy Saudi Arabia ddim yn cael ei chrybwyll fel un o’r gwledydd neu’r rhanbarthau sy’n cael eu nodi yn y strategaeth pum mlynedd.
Dywedodd David Cameron fod y DU yn condemnio’r gosb eithaf a’i fod wedi cyflwyno ei achos i awdurdodau’r deyrnas yn yr achos hwn.