Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyhoeddi ei fwriad i dynhau’r rheolau ar werthu gynnau yn yr Unol Daleithiau yn dilyn cyfres o achosion o saethu torfol.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys sicrhau fod pob un sy’n gwerthu gynnau yn cofrestru fel masnachwyr – hyd yn oed rhai sy’n gwerthu ar-lein neu mewn sioeau gynnau. Mae’r Arlywydd hefyd am weld gwiriadau cefndir yn cael eu cynnal ar bobl sy’n prynu gynnau yn y dyfodol.
Mae’r Arlywydd wedi bod yn edrych am ffyrdd o gyflwyno’r rheolau gan fod y Gyngres, a gaiff ei harwain gan y Gweriniaethwyr, wedi gwrthod ceisiadau i dynhau cyfreithiau gynnau yn y gorffennol.
Mae rheolaeth gynnau yn bwnc llosg i Americanwyr, gyda rhai yn teimlo fod yr ymgais i reoleiddio drylliau yn fath o dresmasiad ar eu hawliau cyfansoddiadol i berchen arnyn nhw.
“Ni fydd hyn yn datrys pob trosedd dreisgar yn y wlad,” esboniodd Barack Obama. “Ond mae ganddo’r potensial i achub bywydau ac arbed teuluoedd rhag poen y colledion anghyffredin hyn.”
‘Annelwig’
Mae’r cynllun i ehangu gwiriadau cefndir ar brynwyr yn rhan o becyn o fesurau ehangach am reolaeth gynnau y mae’r Arlywydd am eu cyflawni.
O dan y gyfraith bresennol, dim ond masnachwyr gynnau trwyddedau ffederal sy’n gorfod cynnal gwiriadau cefndir ar y prynwyr.
Mae’r union ddiffiniad ynglŷn â phwy ddylai gofrestru fel masnachwr a chynnal gwiriadau cefndir yn y dyfodol, yn parhau’n annelwig.
Nid oes chwaith gyfeiriad at faint o gynnau sydd raid i rywun werthu cyn cael ei ystyried fel masnachwr.
Mewn rali ddiweddar, fe wnaeth yr ymgeisydd arlywyddol Hillary Clinton groesawu’r cynlluniau gan ddweud ei bod “yn falch” o Barack Obama. Fe ddywedodd na fyddai hi yn gwaredu â’r cynlluniau.
Er hyn, fe wnaeth y Seneddwr Gweriniaethol, Bob Corker, feirniadu’r camau gan ddweud eu bod yn “ymrannol ac yn niweidiol i atebion go iawn.”