Mae mudiad iaith wedi cyflwyno sylwadau yn beirniadu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sy’n cyflwyno toriadau i feysydd yn ymwneud â’r Gymraeg, at Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw’r toriadau yn “gywilydd” ac mae Cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd, yn cyhuddo’r Llywodraeth o “chwarae gyda ffigurau i argyhoeddi fod angen toriadau, pan nad oes angen.”

“Mae ’na dwyll wedi digwydd,” meddai wrth golwg360 gan esbonio fod Llywodraeth Cymru yn derbyn 4% yn fwy o arian o Lywodraeth Prydain erbyn 2019-20, a bod y swm yn cynyddu fesul blwyddyn.

Am hynny, mae “toriadau i’r Gymraeg yn gwbl ddiangen,” ac mae’r mudiad wedi cyflwyno eu sylwadau ar y Gyllideb ddrafft gerbron Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.

‘Cywilyddus’

Esboniodd y mudiad fod y ffigyrau a ddefnyddir i gyfiawnhau’r  toriadau yn seiliedig ar lefel chwyddiant o 3.6%.

“Bydd y toriadau i’r Gymraeg yn cael eu cynyddu yn sgil chwyddiant, serch bod cyllid y Llywodraeth yn cynyddu mewn gwirionedd,” meddai Heini Gruffudd.

“Wrth gyflwyno’r toriadau hyn, mae’r Llywodraeth yn tynnu’n groes i’w hymrwymiad polisi tuag at y Gymraeg, ac ar amser allweddol fel hwn, mae cwtogi’r gefnogaeth i ddiwylliant, celfyddyd, cyhoeddi a darlledu cyfrwng Cymraeg yn gywilyddus.”

O ganlyniad, mae’r mudiad iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen gynhwysfawr sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd teuluol, cymdeithasol, diwylliannol a’r gweithle.

“Ni fydd modd gwneud hyn heb sicrhau cyllid teilwng.”

‘Honiadau camarweiniol’

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “honiadau Dyfodol i’r Iaith yn gamarweiniol” ac nad ydynt yn “adlewyrchu realiti’r sefyllfa ariannol.”

Esboniodd eu bod eisoes wedi gweld toriadau i’r gyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010, “a bydd yn parhau i grebachu mewn termau real.”

Mae’n cydnabod eu bod wedi derbyn “cynnydd bach” yng Nghyllideb yn yr Adolygiad o Wariant, ond “mae’r galw am wasanaethau a’r pwysau o ran costau yn tyfu’n gyflymach ac ni allwn barhau i gyllido’r holl wasanaethau ar yr un raddfa nac ar yr un sail.”

Am hynny, fe ddywedodd eu bod wedi gwneud “penderfyniadau anodd” i roi blaenoriaeth i’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu fwyaf arnyn nhw.

Serch hynny, fe ddywedodd y llefarydd eu bod wedi “ymrwymo i ddiogelu dyfodol yr iaith ac rydyn ni wedi cyfyngu ar y gostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm Cyllideb y Gymraeg i 5.9% yn 2016-17, drwy ddyrannu £1.2 miliwn i gefnogi’r Gymraeg yn y Gymuned.”

“Rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i bob gweithgarwch sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw cyllid ynddo’i hun yn mynd i sicrhau ffyniant yr iaith, ac fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau partner er mwyn sicrhau sylfaen gadarn i’r iaith yn y dyfodol.”

Fe eglurodd hefyd fod setliad yr adolygiad diweddar o wariant yn golygu bod cyllideb Cymru yn cael ei thorri 3.6%, mewn termau real, rhwng 2015-16 a 2019-20.