Llifogydd ar yr A55 ger Talybont
Ar ymweliad â phentref Talybont yng Ngwynedd y bore yma fe ddatgelodd Carwyn Jones bod cynllun atal llifogydd gwerth £1.5 miliwn yn mynd i ddigwydd.

Cafodd sawl cartref yn y pentref ger Bangor eu heffeithio gan lifogydd ar Ddydd San Steffan, wrth i ddŵr lifo o ffordd yr A55 i gae cyfagos ac i lawr lôn wledig gan achosi difrod i dai.

Dyma’r ail dro i lifogydd effeithio ar y pentref mewn tair blynedd, ac ers llifogydd 2012 bu Cyngor Gwynedd yn paratoi cynllun i fynd i’r afael â’r broblem.

Heddiw fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod yr arian i dalu am y cynllun hwnnw wastad wedi bod ar gael, a bod bargen bellach wedi ei tharo gyda pherchnogion tir cyfagos i osod peipen ger yr A55 er mwyn dargyfeirio unrhyw law trwm i Afon Ogwen.

Daw ei ymweliad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd £2.3 miliwn yn cael ei wario ar gynlluniau amddiffyn ledled Cymru.

‘Sicrhau caniatâd tirfeddianwyr’

Wrth egluro’r sefyllfa i golwg360, roedd Prif Weinidog Cymru yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn sgîl llifogydd Nadolig dair blynedd yn ôl yn Nhalybont.

“Yn 2012 roedd yna ymchwiliad ynglŷn â fel oedd y llifogydd wedi digwydd yma yn Nhalybont,” meddai Carwyn Jones.

“A chasgliad yr adroddiad hwnnw oedd nad yr A55 oedd y broblem bryd hynny. Felly beth oedd yn bwysig oedd deall beth yn gwmws oedd y ffordd i helpu’r pentref.

“Yna yn 2014 fe wnaeth y cyngor ddodi cais fewn yn symud ymlaen gyda’r cynllun. Ryden ni [Llywodraeth Cymru] wedi cyllido’r gwaith dylunio ar y cynllun hynny. Mae’r arian yna i dalu am y cynllun yn gyfan gwbl.

“Ond beth roedd rhaid i ni wneud oedd sicrhau fod caniatâd tirfeddianwyr er mwyn cael piben dros eu tir nhw.

“Rwy’n deall heddiw bod hynny wedi digwydd, bod nhw ddim yn gwrthod y cynllun. Felly nawr mae’n rhaid cael y cytundebau cyfreithiol mewn lle, a dechrau’r prosiect.”

Mwy gan Carwyn Jones ac ymateb trigolion Talybont yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.

Stori: Barry Thomas