Mae swyddogion a’r heddlu yn Cologne yn yr Almaen yn cynnal cyfarfod brys heddiw yn dilyn sawl adroddiad o ymosodiadau rhywiol yn y ddinas ar Nos Galan.

Cafodd y cyfarfod ei alw gan faer y ddinas Henriette Reker i drafod ymateb yr heddlu i’r ymosodiadau o gwmpas prif orsaf drenau Cologne, yn agos i’r gadeirlan enwog.

Yn ôl yr heddlu mae dwsinau o fenywod wedi dweud bod pobl wedi ymosod yn rhywiol arnyn nhw a dwyn eu heiddo.

Cafodd dros 60 cwyn troseddol ei wneud, gan gynnwys un cyhuddiad o dreisio, ac fe ddywedodd gweinidog cyfiawnder yr Almaen Heiko Mass fod yr ymosodiadau yn “llwfr ac afiach”.

Rhybuddiodd arweinydd y Blaid Werdd Claudio Roth na ddylai pobl feio ffoaduriaid am yr ymosodiadau, a hynny ar ôl i’r heddlu ddweud bod tystion wedi disgrifio’r ymosodwyr fel dynion “o dras Arabaidd neu Ogledd Affrica”.