Mae dinas Ramadi yn Irac wedi’i “rhyddhau’n llwyr” o afael y Wladwriaeth Islamaidd (IS), meddai llefarydd ar ran llywodraeth y wlad.
Fe gafodd y ddinas yn nhalaith Anbar ei chipio heddiw, a hynny saith mis ers i luoedd IS ei meddiannu hi.
Mae rhannau o Ramadi yn parhau yn nwylo IS, meddai’r awdurdodau, ac mi fydd angen ymladd pellach er mwyn ceisio cael gwared a’r gwrthryfelwyr yn llwyr.