Mae gwraig oedrannus wedi cael ei hachub o’i chartre’, yn dilyn ffrwydriad nwy.

Fe gafodd y wraig ei chario o’r adeilad yn Wolverhampton toc wedi 8 o’r gloch fore heddiw.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod ei byngalo wedi dymchwel yn dilyn y ffrwydriad, ac mae rhwystrau wedi’u gosod o’i gwmpas fel nad ydi hi’n bosib i neb fynd yn agos ato.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd gan yr heddlu fod y wraig wedi’i hachub o’r rwbel gan swyddogion.