Mae ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn arafu cyrch lluoedd Irac ar ddinas Ramadi, yn ôl milwr profiadol.

Fe lawnsiodd Irac ei chyrch i adennill prifddinas rhanbarth Anbar, ond er iddyn nhw allu croesi afon Ewffrates, mae gwrthwynebiad IS wedi profi’n her fawr wedyn.

Yn ôl y pennaeth milwrol, Ismail al-Mahlawi, mae’r gwaith o gyrraedd Ramadi yn cael ei lesteirio gan hunanfomwyr, saethwyr a thrapiau. Fe fydd angen “rhai dyddiau” eto, meddai, cyn gallu cyrraedd canol y ddinas.

Ar hyn o bryd, mae lluoedd Irac tua hanner milltir o’r canol.