Mae daeargryn nerthol wedi ysgwyd rhannau o Afghanistan a Phacistan dros nos, gan orfodi trigolion oedd yn eu gwelyau i adael eu cartrefi.

Fe gafodd mwy na 300 o bobol eu hanafu wrth i dai cyfan neu waliau ddymchwel yn ninas Peshawar yng ngogledd-orllewin Pacistan. Mae 41 o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty yn y ddinas.

Mae adroddidadau yn honni fod y daeargryn yn mesur 6.2 ar y raddfa, a bod y canolbwynt yn ardal Hindu Kush, Afghanistan. Fe fu defnyddwyr y wefan gymdeithasol, Twitter, yn trydar am deimlo’r cryndod ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul, hefyd.