Nigeria
Fe gafodd tua 100 o bobol eu lladd mewn ffrwydrad nwy yn Nigeria.
Yn ôl adroddiadau lleol, roedd pobol leol yn ciwio i gasglu nwy coginio pan ddigwyddodd y ffrwydrad yn nhref Nnewi.
Cristnogion yw llawer o’r gymuned yno ac roedd llawer yn casglu nwy ar gyfer y Nadolig.
Roedd un o ohebwyr asiantaeth Associated Press wedi cyfri gweddillion 100 o gyrff ond does dim ffigurau swyddogol hyd yma.
Roedd y ffrwydrad wedi digwydd yng nghanolfan cwmni o’r enw Chicason.