Gweithwyr o Gymru yn Cumbria adeg llifogydd ddechrau'r mis (Llun RNLI)
Fe fydd pwyllgor brys cabinet Llywodraeth Prydain yn cyfarfod heddiw i drafod y peryg o ragor o lifogydd yn Cumbria.

Mae disgwyl i ragor o law trwm gyrraedd yno heno wrth i Storm Eva daro gogledd Lloegr.

Y darogan yw y bydd hyd at chwe modfedd o law’n syrthio, a hynny mewn ardal sydd eisoes wedi cael ei Rhagfyr gwlypa’ ers i gofnodion ddechrau.

Fe fydd pwyllgor Cobra yn cyfarfod heddiw am hanner dydd ac mae’r fyddin a 700 o weithwyr Asiantaeth yr Amgylchedd yn barod i ymateb.

Hwn fydd y pedwerydd tro ym mis Rhagfyr i rai ardaloedd yn y sir gael eu taro.