Mae lluoedd Irac wedi dweud eu bod nhw’n gwneud cynnydd yn eu hymgais i ail-gipio dinas Ramadi oddi wrth y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn ôl swyddogion, mae’r lluoedd wedi cyflawni eu cyrch ‘mwyaf sylweddol’ yn y ddinas, sydd i’r gorllewin o Baghdad, ers cael ei meddiannu gan frawychwyr ym mis Mai.

Roedd colli Ramadi, prifddinas talaith Anbar yn ergyd i lywodraeth y wlad ac roedd yn cael ei weld fel cam pwysig yng nghynnydd brawychwyr IS.

Mae llu awyr Irac a’r glymblaid ryngwladol yn darparu cymorth o’r awyr i filwyr sydd ar y tir ac yn bomio targedau IS.

Pobol gyffredin wedi’u dal yn y ddinas

Ers i IS gipio Ramadi, mae’r grŵp brawychol wedi dinistrio pob pont o gwmpas y ddinas.

Wrth i’r ymgyrch i geisio adennill Ramadi o ddwylo IS, mae rhwng  4,000 a 10,000 o drigolion yn parhau i fod yn  y ddinas.

Mae swyddogion o Irac wedi dweud eu bod yn credu y gall pobol gyffredin ddianc o’r ddinas, ond hyd yn hyn, dim ond grwpiau bach sydd wedi cael eu gweld yn gwneud hyn.