Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ei hastudiaeth ar yr ymarferoldeb o ailagor y lein rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Ac yn ôl y cwmni AECOM, a gafodd ei gomisiynu i gynnal yr astudiaeth, gallai’r gost o’i adeiladu at safon rheilffyrdd heddiw fod mor ddrud â £505 miliwn.

Dydy hyn ddim yn ystyried costau’r tir a chaniatâd a allai arwain at gynyddu’r gost i £750 miliwn.

Ffigurau bras yw’r rhain ar hyn o bryd a byddai cynnal astudiaeth lawn yn costio tua £350,000 ac yn cymryd 90 diwrnod i’w chwblhau.

Roedd yr astudiaeth gychwynnol hon hefyd wedi canfod bod dros 97% o’r llwybr gwreiddiol, oedd yn 90 cilomedr o hyd, heb ei ddatblygu ers ei gau i deithwyr yn 1965, ac mae yng ngogledd y lein mae’r darn sydd wedi’i ddatblygu fwyaf.

 

Rhan fwyaf o’r seilwaith ‘yn dal yn gyfan’

Roedd hi’n newyddion da i bobol sy’n cefnogi ail-agor y lein ganfod bod y rhan fwyaf o’i seilwaith craidd, fel twneli a phontydd yn dal i fod yn gyfan.

Er hyn, roedd yr astudiaeth wedi dod i’r casgliad nad y llwybr gwreiddiol fyddai’r llwybr gorau i gynnal y gwasanaeth rheilffordd heddiw, ac roedd yn cydnabod mai “nid ar chwarae bach” y byddai creu llwybr newydd i’r rheilffordd.

“Gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yw un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon ac mae hynny’n cynnwys gwella’r cysylltiadau rhwng cymunedau gwledig,” meddai’r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, wrth ymateb i’r adroddiad.

“Er nad yw ariannu seilwaith rheilffyrdd yn fater sydd wedi’i ddatganoli, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu gyda’r cam cyntaf hwn yn y posibilrwydd o ailagor gwasanaethau rheilffyrdd rhwng y ddwy dref.”

HS2 yn Lloegr am gostio £55.7 biliwn

Mae’r Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones wedi croesawu’r adroddiad, gan ei alw’n “gam cyntaf gwerth chweil”.

Yng nghyd-destun y gost o ail-agor y lein, meddai, “mae cynllun HS2 yn Lloegr i fod i gostio £55.7 biliwn, a gall godi i gymaint â £80 biliwn.

“Byddai cyfran deg o’r arian yma i Gymru yn golygu rhwng £3 a £4.5 biliwn – mwy na digon i gyllido’r prosiect yma a sawl un arall.”