Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi croesau cynllun heddwch i Syria gan y Cenhedloedd Undedig fel ‘cam pwysig ymlaen’.

Cafodd cynnig i gychwyn trafodaethau brys rhwng cyfundrefn yr Arlywydd Assad a grwpiau o wrthwynebwyr cymedrol ei gymeradwyo’n unfrydol gan y Cenhedloedd Unedig ddoe.

Nod y cynllun yw sefydlu “llywodraeth gredadwy, cynhwysol ac ansectyddol”, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn goruchwylio “etholiadau rhydd a theg” o fewn 18 mis wedyn.

Mae’n galw hefyd am ddwysau’r ymdrechion am gadoediad ar unwaith, er nad yw hyn yn cynnwys ymosodiadau o’r awyr ar y Wladwriaeth Islamaidd (Isis/Daesh) oherwydd ofnau iddyn nhw elwa.

Gan gydnabod bod ffordd bell i fynd o hyd, dywedodd Philip Hammond fod angen i wledydd y byd wneud mwy i geisio dod â heddwch i Syria.

“Mae’r anghydfod yn Syria bron yn bum mlwydd oed bellach,” meddai. “Yn ystod y cyfnod hwnnw mae dros 250,000 o Syriaid wedi cael eu lladd. Mae gan bawb ohonom ddyletswydd i rwystro rhagor o ladd yn y dyfodol.”