Mae un o ysgolion hynaf Cymru wedi cau ei drysau am y tro olaf heddiw ar ôl bod ar agor ers bron i 300 mlynedd.
Agorwyd Ysgol Gynradd Llanddewi-yn-Chwytyn ger Trefyclo, Powys mewn ysgubor yn 1724, cyn ei hail-agor yn 1767.
Fe wnaeth Cyngor Powys gymeradwyo’r cynllun i gau ym mis Gorffennaf 2014 ond yn dilyn gwrthwynebiad lleol, cafodd y cais ei gyfeirio at y Gweinidog Addysg Huw Lewis, a gadarnhaodd y penderfyniad.
Yn ôl y Cyngor, roedd yn rhaid cau’r ysgol yn am fod nifer y disgyblion yn isel iawn a bod y “gost fesul disgybl yn llawer uwch na’r cyfartaledd yn y sir.”
Roedd 19 o ddisgyblion yn yr ysgol ar y pryd ond mae llai na 10 yno erbyn hyn.
Cafodd dyddiad cau’r ysgol ei benderfynu yn dilyn trafodaethau gan Lywodraeth Cymru, Corff Llywodraethu’r ysgol a’r cyngor sir.
£500 i sefydlu’r ysgol yn 1703
Mae’r ysgol wedi’i henwi hefyd ar ôl y Fonesig Anna Child a wnaeth adael £500 i adeiladu ysgol yn y pentref wedi iddi farw yn 1703.
Mae ymddiriedolaeth yn ei henw yn dal i fynd a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am wisg newydd i’r plant yn eu hysgolion newydd.