Mae gobaith y gallai trafodaethau rhyngwladol ar Syria gan y Cenhedloedd Unedig arwain at ddod â’r rhyfel cartref yno i ben a pharatoi’r ffordd ar gyfer ffurfio llywodraeth newydd yn y wlad.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cyfarfod heddiw yn Efrog Newydd i drafod dod a heddwch i’r wlad gythryblus, lle mae rhyfel cartref wedi bod ers 2011.

Wrth siarad ag Aelodau Seneddol yr wythnos hon, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond awgrymu’r posibilrwydd y gallai’r cyfarfod o’r Grŵp Rhyngwladol i Gefnogi Syria lunio cynnig i’r cyngor na fydd yn cael feto  gan Rwsia.

Daw’r trafodaethau’n ddiwrnod ar ôl i swyddogion cyllid y Cyngor Diogelwch gytuno ar gynllun i wella ymdrechion i dorri pob ffynhonnell ariannol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ac yn Irac.

Amcangyfrif bod dros 220,000 o bobl wedi cael eu lladd yn yr ymladd ac mae tua 9 miliwn o bobl wedi gorfod ffoi i wledydd eraill.