Mae’r cwmni ynni npower wedi cael dirwy o £26 miliwn gan reoleiddiwr y diwydiant Ofgem.

Mae’n dilyn methiannau wrth ddelio a biliau a chwynion cwsmeriaid.

Fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng rhai o’r cwsmeriaid gafodd eu heffeithio waethaf ac elusennau.

Cafodd mwy na 500,000 o gwsmeriaid eu heffeithio gan broblemau biliau npower rhwng mis Medi 2013 a Rhagfyr 2014.

Dywedodd Ofgem bod y rhan fwyaf o broblemau npower wedi codi ar ôl i’r cwmni gyflwyno system gyfrifiadurol newydd yn 2011.

Rhwng mis Medi 2013 a mis Rhagfyr 2014, roedd npower wedi anfon mwy na 500,000 o filiau’n hwyr. Roedd rhai cwsmeriaid hefyd wedi derbyn biliau a oedd yn wallus.

Fe fethodd npower i ddelio gyda’r problemau’n brydlon, meddai Ofgem, “gan achosi pryder i nifer.”