Mae lluoedd Israel wedi lladd Palestiniad oedd wedi saethu pobol mewn bar yn Tel Aviv, gan ladd dau o bobol ac anafu deg yn rhagor.
Dyma’r pedwerydd ymosodiad o’r fath yn Israel gan Balestiniaid dros y tair wythnos diwethaf, ac fe ddaw ar adeg o dyndra ar ddechrau mis sanctaidd Ramadan y Mwslemiaid.
Roedd disgwyl i filoedd o Balestiniaid o’r Lan Orllewinol fynd i Jerwsalem ar gyfer gweddi gynta’r dydd ym mosg Al Aqsa.
Yn dilyn cyfarfod â swyddogion diogelwch, cyhoeddodd Naftali Bennett, prif weinidog Israel, y byddai croesffordd ger cartre’r ymosodwr yng ngogledd y Lan Orllewinol yn cau am gyfnod amhenodol.
Dywedodd mewn datganiad y byddai’r gosb i unrhyw lofrudd “yn annioddefol”.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Israel yn rhoi’r hawl i Balestiniaid fynd i Jerwsalem i weddïo yn dilyn y digwyddiad.
Fe arweiniodd gwrthdaro yn ystod Ramadan y llynedd at ryfel Gaza, oedd wedi para 11 o ddiwrnodau.