Darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl, diogelu swyddi ac incwm, a mynd i’r afael â’r argyfwng tai fydd prif flaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau lleol ym mis Mai, yn ôl yr arweinydd Adam Price.
Lansiodd Plaid Cymru eu hymgyrch etholiad llywodraeth leol a’u maniffesto heddiw (dydd Gwener, Ebrill 8) yng Ngwesty’r Quay, Deganwy.
Mae Plaid Cymru yn arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd – Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr.
Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Adam Price fod “Plaid Cymru eisoes wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd tymor y Senedd hon”.
“Nawr, rydym am fynd ymhellach,” meddai.
“Dyna pam [mai] ein prif gynnig yn yr ymgyrch hon yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn anelu at ymestyn prydau ysgol rhad ac am ddim i ddisgyblion uwchradd o fewn tymor nesaf y cyngor.
“Byddwn yn mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai mwy ynni-effeithlon, gwirioneddol fforddiadwy, a chymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
“A byddwn yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn cefnogi busnesau lleol, gan ddiogelu swyddi ac incwm lleol yng nghanol argyfwng costau byw.
“Dyma Blaid Cymru ar ei gorau – yn gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl.”
‘Gwneud gwahaniaeth dros y bobl’
Bu etholiadau lleol 2017 yn rhai eithaf llwyddiannus i’r Blaid, gan iddyn nhw ennill 38 o seddi o dan arweiniad Leanne Wood.
Fodd bynnag, mae Adam Price yn mynnu nad yw e dan bwysau i efelychu llwyddiant ei ragflaenydd.
“Rydyn ni bob amser eisiau gweld cynnydd i’r blaid, a hynny ar lefel lleol a chenedlaethol,” meddai wrth golwg360.
“Pam? Oherwydd nid fy ffawd i sy’n bwysig yn y fan hyn ond sefyllfa teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru.
“Dyna sydd yn allweddol, ein bod ni’n ethol cymaint o gynghorwyr Plaid Cymru ag sy’n bosibl, oherwydd mae cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu cymunedau.
“Ac wrth gwrs, yn yr ardaloedd hynny lle rydyn ni’n medru arwain, rydyn ni wedyn yn gallu cyflwyno’r polisïau radical sydd yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.
“Felly dyna’r ffocws i ni, mae hi’n bwysig peidio gweld gwleidyddiaeth drwy brism personoliaethau.
“Mae hwnna yn ffordd San Steffan o weld pwrpas gwleidyddiaeth.
“Rydyn ni yng Nghymru ac ym Mhlaid Cymru yn sicr gyda gwreiddiau yn y gymuned, y rheswm rydyn ni’n bodoli fel plaid yw cyflawni ac i wneud gwahaniaeth dros y bobol.
“Ac y mwyaf o gynghorwyr Plaid Cymru gaiff eu hethol ar Fai 5, y mwyaf byd o wahaniaeth y byddwn ni’n llwyddo i’w wneud.”
‘Symud Cymru ymlaen’
Mae arwain cynghorau yn gyfle i fodelu sut y byddai Plaid Cymru yn edrych mewn llywodraeth, yn ôl Adam Price.
“Rydyn ni yn blaid llywodraeth yn barod ar lefel lleol mewn rhannau helaeth o diriogaeth Cymru,” meddai.
“Ac rydyn ni wedi gweld yn ystod y pum mlynedd diwethaf y blaengaredd, yr arloesedd, y radicaliaeth ymarferol a’r sosialaeth gymunedol mae Plaid Cymru yn ei arddel fel athroniaeth sylfaenol.
“Edrychwch ar yr hyn mae Cyngor Gwynedd wedi’i gyflawni o ran cynyddu’r lefel o wariant lleol sy’n aros o fewn y sir – cynnydd o 39%.
“Ar lefel lleol, rydyn ni yn gallu dangos i bobol Cymru yr hyn sydd yn bosibl er gwaethaf y cyfyngiadau sydd arnom ni ar hyn o bryd yn ariannol ac o ran ein pwerau.
“Mae yna wastad fwy yr ydym ni’n gallu ei gyflawni o fod yn ddychmyglawn.
“O feddwl yn radical ac yn greadigol rydyn ni’n gallu gwthio y tu hwnt i’r cyfyngiadau sydd arnom ni ac mae hynny wedyn yn galluogi pobl Cymru i feddwl bod modd symud ymlaen o’r sefyllfa lle rydyn ni wedi etifeddu gan lywodraethau San Steffan – y rhai Llafur a Torïaidd sydd wedi ein gadael ni gyda’r gwaddol ofnadwy yma ar hyn o bryd o dlodi yn ein cymunedau ni.
“Ond does dim rhaid i ni dderbyn e, does dim byd yn anochel amdano fe, ac o gael arweiniad clir a dychmygol ar lefel lleol a chenedlaethol, rydyn ni’n gallu symud Cymru ymlaen a dechrau rhoi elfennau mewn lle i greu cymdeithas ar sail cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd yr ydym ni eisiau creu.
“Mae’r polisi prydau ysgol am ddim dw i’n credu wedi torri trwodd yn anhygoel i amgyffred pobol gyffredin ar draws Cymru.
“Mae pobol wedi bod yn dod ata’ i ac aelodau eraill o Blaid Cymru a dweud: ‘Diolch i chi, mae hwn yn golygu cymaint’.
“Mae e wedi ysbrydoli pobol, dw i’n credu, mewn cyfnod sydd yn anodd ar bob lefel a chyfnod lle mae pobol angen cymorth ymarferol a hefyd ysbrydoliaeth bod yna Gymru amgen yn bosibl.
“Ac rydyn ni’n gallu dangos hynny gam wrth gam ar lefel lleol a dangos bod modd i ni roi Cymru ar drywydd gwahanol, a thrwy hynny wedyn creu momentwm ar gyfer y newid ar lefel genedlaethol rydyn ni’n dyheu amdani.”
‘Twf a chynnydd’
Fodd bynnag, dydy Adam Price ddim yn fodlon rhoi ffigwr ar beth fyddai’n cael ei ystyried yn etholiad llwyddiannus i Blaid Cymru.
“Dw i eisiau i bob un o’n hymgeiswyr ni lwyddo,” meddai.
“Hynny yw, dw i eisiau gweld gymaint o lwyddiant ag sy’n bosibl.
“Mae ein huchelgais ni dros Gymru yn ddiderfyn yn hynny o beth.
“Ond dw i ddim eisiau rhoi ffigwr arno fe, y peth pwysig yw ein bod ni’n gweld twf a chynnydd i’r Blaid ymhob man oherwydd dyna’r ffordd rydyn ni’n mynd i wneud y mwyaf o wahaniaeth, nid yn unig o ran y Blaid, nid y Blaid sy’n bwysig i’r Blaid, ond i bobol Cymru.
“Dyna pam mae ein haelodau ni yn sefyll yn yr etholiadau yma, oherwydd ein bod ni wir eisiau gwneud y gwahaniaeth rydyn ni’n credu sydd ei angen, a’r gwahaniaeth rydyn ni’n credu mai dim ond Plaid Cymru all ddylifro ac rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y neges honno yn cael croeso brwd gan bobol Cymru.”