Mae disgwyl i lys yng Ngwlad Belg benderfynu ar Fai 17 a fyddan nhw’n estraddodi’r rapiwr Josep Miquel Arenas Beltrán (neu Valtònyc) i Sbaen.
Mae’r rapiwr, sy’n perfformio yn yr iaith Gatalaneg, wedi’i amau o glodfori brawychiaeth ac o sarhau’r frenhiniaeth drwy eiriau ei ganeuon.
Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar yn 2018 ond fe adawodd e’r wlad, gan ddweud na fyddai’n “hawdd” i’r awdurdodau ei garcharu.
Er bod Gwlad Belg wedi gwrthod ei estraddodi fis Rhagfyr y llynedd, cafodd y penderfyniad ei herio gan swyddfa’r erlynydd cyhoeddus a bu’n rhaid cynnal ail achos.
Daeth dyfarniad nad oedd clodfori brawychiaeth a gwneud bygythiadau’n ddigon o reswm i’w estraddodi i gwblhau ei ddedfryd yn Sbaen.
Ond dydy hi ddim bellach yn drosedd yng Ngwlad Belg i sarhau’r frenhiniaeth, a hynny ers mis Hydref y llynedd, pan aethon nhw ati i ddiddymu deddf oedd wedi bod mewn grym ers 1847, gan benderfynu ei bod yn llesteirio rhyddid barn a Chonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.