Mae undeb UNSAIN Cymru wedi lansio’u prif flaenoriaethau ar gyfer yr etholiadau lleol ymhen mis.
Mae’r undeb yn galw ar ymgeiswyr i ddilyn yr hyn maen nhw’n eu hystyried yn faterion sydd bwysicaf i bleidleiswyr yng Nghymru er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus ac amodau gwaith.
Cafodd eu blaenoriaethau eu lansio mewn cyfarfod yn Venue Cymru yn Llandudno, ac maen nhw wedi’u rhannu’n wyth maes gwahanol.
Maen nhw am weld gwasanaethau’n dychwelyd i reolaeth y cynghorau, a therfyn ar gomisiynu cytundebau gofal cymdeithasol i ddarparwyr preifat.
Maen nhw hefyd yn galw am derfyn ar yr arfer o dalu staff cynorthwyol yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig, yn ogystal â chyflwyno asesiad o’r system gyflogau teg gan na fu asesiad o’r fath ers dros ddegawd.
Mae newid hinsawdd ac adeiladu tai cymdeithasol a thai cyngor hefyd ymhlith prif flaenoriaethau’r undeb.
Ymateb yr undeb
“Rydym wrth ein boddau fod ymgeiswyr y cynghorau eisoes wedi dechrau dangos eu bod nhw’n rhoi blaenoriaethau pobol sy’n gweithio yn gyntaf, gan addo cefnogi ein prif flaenoriaethau,” meddai Lianne Dallimore, cadeirydd llywodraeth leol UNSAIN Cymru.
“Mae’r etholiad hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus anhygoel ac amodau gwaith y sawl sy’n eu darparu nhw.”
Yn ôl Karen Loughlin, ysgrifennydd rhanbarthol UNSAIN Cymru, dylai gwasanaethau cyhoeddus fod “wrth galon yr etholiadau”.
“Eleni, am y tro cyntaf, bydd pobol 16 oed yn gallu dweud eu dweud ar ddyfodol cynghorau ledled Cymru, felly ni fu erioed amser pwysicach i sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cefnogi er lles pob cenhedlaeth,” meddai.
Bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr lenwi holiadur, a bydd unrhyw un sy’n addo cadw at flaenoriaethau UNSAIN yn cael eu cynnwys ar wefan yn nodi eu cefnogaeth.