Llandeilo yw’r lle gorau i fyw yng Nghymru, yn ôl y Sunday Times.

Mae’r dref yn sir Gaerfyrddin wedi’i chynnwys ar y rhestr o’r 70 lle gorau i fyw yn y Deyrnas Unedig.

Hefyd ar y rhestr yng Nghymru mae Conwy, Penarth, Rhuthun, Llandudoch a Brynbuga.

Ilkley yng ngorllewin Swydd Efrog ddaeth i’r brig, a hynny yn sgil ei hysgolion, ei siopau diddorol, ei golygfeydd hardd a’i chysylltiadau trafnidiaeth cyfleus.

Cafodd y dref ei chanmol hefyd am ei chyfleusterau chwaraeon a chyfleoedd i bobol ifanc, yn ogystal ag ysbryd y gymuned.

Isle of Bute yw’r lle gorau i fyw yn yr Alban.

Mae’r rhestr wedi’i chyhoeddi’n llawn ar-lein heddiw (dydd Gwener, Ebrill 8), a bydd fersiwn gryno yn y papur ddydd Sul (Ebrill 10).

‘Gwrthrychol’

“Mae rhestr Best Places to Live y Sunday Times yn angenrheidiol o wrthrychol,” meddai Helen Davies o’r Times a’r Sunday Times.

“Gadewch e i’r ystadegau yn unig a fyddwch chi fyth yn dal ysbryd lle.

“Ar gyfer hynny, rhaid i chi ymweld er mwyn ystyried y teimlad bod ‘rhaid i chi fod yno’.

“Gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb.”

Yr enillwyr rhanbarthol yw:

– Dwyrain Lloegr: Norwich, Norfolk

– Llundain: Crystal Palace

– Canolbarth Lloegr: Uppingham, Rutland

– Gogledd Iwerddon: Ballycastle, sir Antrim

– Gogledd a gogledd-ddwyrain Lloegr: Slaithwaite, Gorllewin Swydd Efrog

– Gogledd-orllewin Lloegr: Trawden, Swydd Gaerhirfryn

– Yr Alban: Isle of Bute, Argyll

– De-ddwyrain Lloegr: Sevenoaks, Caint

– De-orllewin Lloegr: The Chalke Valley, Wiltshire

– Cymru: Llandeilo