Mae ceir yr heddlu’n cael eu defnyddio fel ambiwlansys, wrth i’r Gwasanaeth Iechyd gofnodi eu hamserau aros gwaethaf erioed.
Ar benwythnos Hydref 29 y llynedd, roedd 110 o ddigwyddiadau o dan y chwyddwydr.
O blith yr achosion hynny, bu’n rhaid i’r heddlu gludo 14% ohonyn nhw i’r ysbyty, ac aros amser eithriadol o hir mewn 15% o achosion gyda 50 o blismyn yn treulio cyfanswm o 45 awr yn aros.
Mewn 25% o achosion, roedd cefnogi’r gwasanaeth ambiwlans yn golygu nad oedd yr heddlu’n gallu gwneud eu gwaith arferol.
Ac mewn 27% o achosion, roedd ceisiadau am bresenoldeb yr heddlu’n amhriodol.
Cafodd y ffigurau eu cyflwyno i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona fis diwethaf, lle dywedodd yr heddlu fod yr amser a gafodd ei dreulio gan yr heddlu’n cefnogi argyfyngau meddygol “wedi cael effaith uniongyrchol ar ein gallu i ymateb i alwadau brys a chadw cymunedau ledled Cymru’n ddiogel”.
Achosion
Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, roedd dynes wedi torri ei garddwrn i’r asgwrn ac yn gwaedu’n ddifrifol, a bu’n rhaid i’r lluoedd arfog ymateb gan nad oedd ambiwlans ar gael am saith awr ac er i’r heddlu gysylltu â’r gwasanaeth ambiwlans, chawson nhw ddim ymateb ac felly bu’n rhaid iddyn nhw gludo’r ddynes i’r ysbyty.
Yn ardal Heddlu’r De, fe wnaeth yr heddlu ymateb i adroddiadau bod rhywun wedi cael trawiad ar y galon gan nad oedd aelodau’r cyhoedd yn gallu cael ateb gan y gwasanaeth ambiwlans.
Er i’r heddlu lwyddo i gysylltu â nhw yn y pen draw, cafodd yr alwad ei chofnodi fel un oren, oedd yn golygu aros rhwng chwech ac wyth awr am ambiwlans, a bu’n rhaid i’r heddlu gludo’r claf i’r ysbyty.
Cafodd yr achos effaith sylweddol ar yr heddlu drwyddi draw, ac mae adroddiadau bod meddygon sy’n gwirfoddoli gyda’r heddlu wedi rhoi’r gorau iddi oherwydd pwysau’r rôl a’r peryglon cysylltiedig.
‘Argyfwng’
“Mae yna reswm pam ein bod ni’n dweud bod y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru mewn argyfwng – oherwydd mae’n amlwg fod yna un, a dyna pam ei bod hi mor ddiflas nad oedd Llafur yn gallu cyfaddef hynny na gwneud unrhyw beth amdano fe,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Rydym bellach yn clywed am nifer sylweddol o achosion lle bu’n rhaid i’r heddlu roi’r gorau i’w dyletswyddau am nad oedd y gwasanaeth ambiwlans yn gallu cyflawni eu rhai nhw.
“Nid eu bai nhw yw e, ond y Llywodraeth Lafur sy’n siomi cleifion a pharafeddygon dro ar ôl tro.
“Ac er bod hyn ar adeg y perfformiad gwaethaf erioed gan y gwasanaeth iechyd, dydy e ddim wedi gwella ryw lawer, gyda rhestrau aros yn parhau i dyfu, amserau aros adrannau brys ar eu trydedd uchaf erioed, ac achosion o bensiynwyr yn cael eu gadael ar y strydoedd am oriau am nad oes yna ambiwlans o amgylch y lle.
“Mae’n rhaid i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd a pheidio â thorri pob record anghywir.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gweld pwysau na welwyd ei debyg o’r blaen ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y fyddin dros y chwe mis diwethaf, ac yn cydnabod rôl bwysig gwasanaethau brys eraill o ran cefnogi pobl sydd angen cymorth ar frys,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae cynllun cyflawni wedi’i sefydlu i sicrhau bod mwy o gapasiti ambiwlans ar gael ac i wella’r amseroedd ymateb a’r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi buddsoddi mewn gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys recriwtio staff rheng flaen ychwanegol a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio i wella prydlondeb ac ansawdd y gofal ac i ddarparu cymorth yn ystod cyfnodau o alw digynsail.
“Rydym wedi ymrwymo £1bn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i adfer ar ôl y pandemig ac i drin pobl cyn gynted â phosibl.
“Ym mis Ebrill byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl a fydd yn nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer cleifion y mae eu triniaeth wedi’i gohirio oherwydd y pandemig.”