Yr Urdd sydd wedi cipio Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant eleni, a hynny am groesawu ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan.
Dros gyfnod o ganrif, mae’r mudiad wedi cynnig gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg, ac yn fwy diweddar, maen nhw wedi bod yn esiampl i fudiadau eraill wrth i Gymru hybu ei hun fel Cenedl Noddfa.
Mae Gwobrau Dewi Sant, sydd wedi cael eu rhoi ers naw mlynedd, yn dathlu cyflawniadau a chyfraniadau arbennig pobol yng Nghymru neu o Gymru.
Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd chwaraeon a diwylliannol i bobol ifanc yng Nghymru, ond yn sgil rhyfeloedd, mae’r mudiad wedi agor eu drysau i fwy na 100 o blant a theuluoedd fel rhan o’r cynlluniau i adleoli teuluoedd o Affganistan, ac unwaith eto i 250 o bobol o Wcráin.
Mae gwobrau’n cael eu rhoi eleni yn y categorïau canlynol:
- Dewrder
- Busnes
- Ysbryd y gymuned
- Gweithiwr allweddol
- Diwylliant
- Pencampwr yr Amgylchedd
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Chwaraeon
- Person ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi llongyfarch yr holl enillwyr.
Ysbrydoli eraill
“Mae’n wych cael bod yma yn y cnawd unwaith eto i roi gwobrau i’r bobol sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni,” meddai Mark Drakeford.
“Maen nhw’n grŵp o bobl sy’n ysbrydoli eraill ac maen nhw’n haeddu cael eu llongyfarch ar eu cyfraniad i fywyd Cymru.
“Mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu eraill mewn ffordd ddewr ac anhunanol, mae rhai yn torri tir newydd yn eu meysydd, mae eraill wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r amgylchedd, ac rydyn ni’n ffodus eu bod i gyd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
“Dw i’n arbennig o falch o gael canmol Urdd Gobaith Cymru yn gyhoeddus, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, am weithio mor galed i roi croeso cynnes a Chymreig i bobol sy’n ffoi rhag trawma a thrychinebau dyngarol.
“Mae’r Urdd wir wedi bod yn esiampl o’r dull ‘Tîm Cymru’ rydyn ni wedi’i ddatblygu ar y cyd â sefydliadau eraill sy’n bartneriaid inni.
“Mae’n gwneud llawer mwy na’i waith arferol ac wedi symbylu’n hymdrechion i groesawu unigolion a theuluoedd sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, ac mae’r Urdd wedi bod yn enghraifft ysbrydoledig o’r hyn mae hynny’n ei olygu yn ymarferol.”
Yr enillwyr
- Dewrder: Sarsiant Geraint Jenkins a PC Thomas Scourfield, Heddlu De Cymru
- Busnes: Jordan Lea / Deal Me Out
- Ysbryd y Gymuned: Siop Griffiths
- Gweithiwr allweddol: Michelle Jones a Catherine Cooper, Ysgol Gynradd Landsdowne
- Diwylliant: Berwyn Rowlands
- Pencampwr yr amgylchedd: Y Grŵp Amgylchedd Carbon Isel / Prifysgol Caerdydd
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
- Chwaraeon: Hannah Mills OBE
- Person Ifanc: Daniel Lewis
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog: Urdd Gobaith Cymru