Mae eiddo gwerth £1.5bn wedi cael ei ddinistrio mewn tân mawr yn Somaliland, rhan o Somalia sy’n ystyried ei hun yn annibynnol.

Cafodd o leiaf 28 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad ym marchnad Waheen nos Wener (Ebrill 1), a’r farchnad honno’n ffynhonnell sylweddol o arian i drigolion Hargeisa.

Digwyddodd y tân ar noswyl mis sanctaidd Ramadan.

Yn ôl adroddiad cychwynnol, mae’r tân wedi achosi gwerth rhwng £1.5bn a £2bn o ddifrod, ac mae’r awdurdodau’n ceisio darganfod beth oedd wedi achosi’r tân, gyda thrigolion lleol yn Hargeisa yn credu mai nam trydanol oedd wedi ei achosi.

Mae’r digwyddiad wedi dod â thrigolion Somalia a Somaliland ynghyd, wrth i’r Arlywydd Mohamed Abdullahi Mohamed, arlywydd Somalia, gynnig cymorth i Muse Bihi Abdi, arweinydd Somaliland sydd wedi bod wrth y llyw ers 2017.

Mae Abdi wedi bod yn ceisio cydnabyddiaeth i ymreolaeth Somaliland ers cryn amser, ond mae Somalia yn gwrthod cydnabod ei hannibyniaeth.

Torrodd Somaliland, sydd â phobologaeth o ryw dair miliwn o bobol, yn glir yn 1991 wrth i Somalia wynebu sgil-effeithiau rhyfel.

Er nad yw’r gymuned ryngwladol yn cydnabod ei hannibyniaeth, mae Somaliland wedi llwyddo i gynnal ei llywodraeth, ei harian a’i system ddiogelwch ei hun, gan gynnal etholiadau rheolaidd ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys etholiadau seneddol y llynedd.