Dylai sicrhau bod cynghorau’n rheoli gofal cymdeithasol yn uniongyrchol ac yn torri cytundebau preifat gwerthfawr fod yn flaenoriaeth i ymgeiswyr yn etholiadau cynghorau lleol fis nesaf, yn ôl undeb UNSAIN Cymru.
Bydd etholwyr, gan gynnwys pobol 16 oed am y tro cyntaf, yn pleidleisio ledled Cymru ymhen pedair wythnos.
Mae UNSAIN yn cynrychioli mwy na 90,000 o weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac yn galw ar yr holl ymgeiswyr i ganolbwyntio ar gyfres o fesurau i wella a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yr undeb yn lansio’u blaenoriaethau yn Venue Cymru yn Llandudno fory (dydd Mawrth, Ebrill 5).
Bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn arolwg, a bydd y sawl sy’n mabwysiadu blaenoriaethau UNSAIN Cymru yn cael rhoi eu henwau ar wefan benodedig yn datgan eu bod nhw’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u hariannu’n dda.
Yn gynharach eleni, sicrhaodd yr undeb fod gwasanaethau hamdden yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, ac maen nhw am weld rhagor o wasanaethau cyhoeddus yn ôl dan reolaeth cynghorau ar ôl yr etholiadau, yn ogystal â therfyn ar gomisiynu cytundebau gofal cymdeithasol i ddarparwyr preifat.
Maen nhw hefyd yn galw am roi terfyn ar y “sgandal” o dalu staff cynorthwyol mewn ysgolion yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig, yn ogystal â chreu system deg o asesu cyflogau teg ar gyfer amrywiaeth o swyddi gan fod degawd wedi mynd heibio ers yr asesiad diwethaf.
Mae newid hinsawdd, sicrhau tai cymdeithasol ac adeiladu tai cyngor hefyd ymhlith eu blaenoriaethau.
‘Y glud sy’n cadw ein cymunedau ynghyd’
“Mae pob un gweithiwr awdurdod lleol wedi dangos eu hymroddiad i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg drwy gydol y pandemig,” meddai Lianne Dallimore, cadeirydd llywodraeth leol UNSAIN Cymru.
“Rydym yn gwybod mai gwasanaethau cyhoeddus yw’r glud sy’n cadw ein cymunedau ynghyd ac mai buddsoddiad yma yw’r ffordd orau o herio tlodi ac anghydraddoldeb.
“Rydym yn gofyn i ymgeiswyr cynghorau ddangos eu bod nhw’n rhoi blaenoriaethau pobol sy’n gweithio yn gyntaf drwy ddatgan eu cefnogaeth i’n prif flaenoriaethau.”
Mae ei neges wedi’i hategu gan Karen Loughlin, ysgrifennydd rhanbarthol UNSAIN Cymru.
“Dylai gwasanaethau lleol o safon a chyflogau ac amodau rhesymol i’r sawl sy’n eu darparu nhw fod ar frig agenda ymgeiswyr sy’n gobeithio ennill yn yr etholiadau eleni,” meddai.
“Mae gan bobol sy’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol y profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno’r gwasanaethau hyn, a dyna pam ein bod ni’n gofyn i bawb sy’n ceisio cael eu hethol i gefnogi ein blaenoriaethau.”