Mae’r Athro Sally Holland, sydd ar fin gadael ei rôl yn Gomisiynydd Plant Cymru, yn galw am ddatganoli pwerau tros fudd-daliadau lles.
Mae’n dweud y gallai datganoli’r pwerau i’r Senedd gael effaith fawr ar lefelau tlodi plant yng Nghymru.
Bydd hi’n gadael ei swydd ar Ebrill 14, ac yn cael ei holynu gan Rocio Cifuentes ond cyn hynny, bydd hi’n dweud mewn darlith ar-lein o’r Senedd heddiw (dydd Llun, Ebrill 4) y gallai datganoli pwerau i Gymru gael effaith gadarnhaol ar iechyd ac addysg plant.
Bydd ei sgwrs yn canolbwyntio ar lwyddiannau datganoli o safbwynt plant dros yr ugain mlynedd diwethaf, gan gynnwys ennill rhai hawliau cyfreithiol pwysig na fydden nhw wedi’u cael heb ddatganoli – gan gynnwys yr hawl i bleidleisio’n 16 oed, yr un diogelwch cyfreithiol ag oedolion rhag cosbau corfforol yn dilyn gwahardd smacio, eithrio ymadawyr gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor a diwygiadau cadarnhaol i’r cwricwlwm.
Ond does dim manteision sylweddol y mae modd eu mesur o ran deilliannau i blant mewn meysydd pwysig fel tlodi.
Yn ystod ei sgwrs, bydd hi hefyd yn myfyrio ar yr angen am lefelau uchel o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus i blant ar ôl y pandemig Covid-19.
Rhwystredigaethau
Serch hynny, mae hi’n feirniad hirdymor o derfyn dau blentyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Gredyd Cynhwysol, sy’n gosod cap o ddau blentyn ar faint o arian gaiff teuluoedd fesul plentyn.
Dyma un o’r achosion mwyaf o dorri hawliau plant gan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn ystod ei chyfnod yn y swydd, meddai.
Bydd hi hefyd yn tynnu sylw at y cyfnodau aros hir am daliadau cyntaf a thynnu’r ymgodiad o £20 yn ddiweddar fel tystiolaeth o system nad yw’n bodloni anghenion teuluoedd.
Mae budd-dal plant, y mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru yn gymwys i’w gael, wedi cynyddu llai na phunt yr wythnos ers 2011, felly dydy e ddim wedi cadw i fyny â’r cynnydd mewn costau byw.
Mae dadansoddiad diweddar yn awgrymu y byddai Cymru mewn sefyllfa dda i ailddosbarthu mwy o incwm i deuluoedd â phlant pe byddai gan Lywodraeth Cymru yr un pwerau dros fudd-daliadau â’r Alban, sydd wedi cyflwyno taliadau plant ychwanegol i deuluoedd ag incwm isel sy’n debygol o leihau tlodi plant ymhellach.
Dydy cyfiawnder ieuenctid wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae’r strategaeth a’r protocol cyfredol ar gyfer lleihau troseddoli pobl ifanc yng Nghymru wedi’u llunio ar y cyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru.
Ledled y Deyrnas Unedig, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y plant yn y ddalfa er 2010, ac mae’r gyfradd yng Nghymru wedi disgyn ar gyfradd hyd yn oed uwch nag yn Lloegr.
Yn 2010, roedd 116 o blant yn y ddalfa yng Nghymru, o gymharu ag 11 yn unig ym mis Ionawr eleni.
Yn ôl y Comisiynydd, dylai cyfiawnder ieuenctid gael ei ddatganoli ymhellach i Gymru er mwyn i Lywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill yng Nghymru allu adeiladu’n gynhwysfawr ar eu gwaith cadarnhaol dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Wrth gau ei darlith, bydd y Comisiynydd yn dweud, beth bynnag yw’r sefyllfa o ran pwerau datganoledig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae effaith barhaus y pandemig yn golygu ein bod mewn argyfwng o hyd o ran plant, a bod angen cyllid i ymateb i’r argyfwng hwnnw.