Dim ond 13% o gynghorau Cymru sydd â chynllun i symud tuag at gerbydau trydan, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu hannog nhw i wneud hynny.

Ar draws y Deyrnas Unedig, dydy mwy na 70% o gynghorau ddim wedi cyhoeddi eu cynlluniau, yn ôl gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth.

Dim ond 28% o gynghorau sydd wedi’u cyhoeddi nhw, ac mae 23% yn rhagor yn dweud eu bod nhw wrthi ar hyn o bryd.

Mae 57% o gynghorau Llundain wedi cyhoeddi cynllun, 44% yng ngorllewin canolbarth Lloegr, 38% yn yr Alban a 30% yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Does yna’r un yng Ngogledd Iwerddon, 10% yn nwyrain canolbarth Lloegr ac 13% yng Nghymru.

Cynlluniau

Mae Strategaeth Isadeiledd Adran Drafnidiaeth San Steffan, a gafodd ei chyhoeddi fis diwethaf, yn nod y bydd y Llywodraeth yn “trawsnewid” y sefyllfa drwy orfodi awdurdodau lleol, drwy ymgynghoriad, i ddatblygu a chyflwyno strategaethau lleol i sicrhau mannau gwefru.

Dywed y strategaeth fod arweinyddiaeth leol yn “hanfodol” i greu cyfleoedd buddsoddi newydd ac i fagu hyder mewn ceir trydan.

Wrth ymateb i gwestiwn yn ddiweddar, dywedodd y gweinidog Greg Hands y bydd y Llywodraeth yn “monitro ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol” wrth iddyn nhw ddatblygu eu strategaethau.

‘Pryderus dros ben’

Yn ôl Quentin Willson, llefarydd FairCharge a chyn-gyflwynydd y gyfres geir Top Gear, mae’r ffigurau’n “bryderus dros ben”.

Er ei fod yn cydnabod mai cynghorau lleol yw’r awdurdodau gorau i ofalu am y cynlluniau, mae’n dweud bod gan Lywodraeth San Steffan “rôl fawr wrth gefnogi cynghorau” ond y bydd diffyg gweithredu’n gadael cynghorau ar ôl.

Mae’n dweud ymhellach fod y diffyg mannau gwefru’n golygu y bydd pobol yn cael eu “rhwystro rhag cymryd rhan yn y chwyldro ceir trydain” a bod hynny’n “annheg”.

O 2030, bydd hi’n anghyfreithlon i werthu ceir a faniau petrol a disel.

Roedd mwy nag un ym mhob chwech o geir a gafodd eu cofrestru y llynedd yn geir trydain.