Mae’r rhan fwyaf o achosion o ganser o ganlyniad i ffactorau sy’n gallu cael eu hosgoi fel ffordd o fyw rhywun a’i amgylchedd, yn ôl astudiaeth newydd.

Roedd grŵp o ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Stony Brook yn Efrog Newydd wedi edrych ar y ffordd mae gwahanol amgylcheddau yn gallu cael effaith ar ddatblygiad canser.

Er enghraifft, mae data’n dangos bod pobol sy’n symud o leoedd lle mae risg o gael canser yn isel i’r lleoedd lle mae’r risg yn uwch wedi datblygu’r afiechyd ar gyfradd oedd yn ‘gyson’ a’u hamgylchedd newydd.

Gwrth-ddweud gwaith ymchwil

Mae’r canfyddiadau yn gwrth-ddweud gwaith ymchwil a gafodd ei gyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn, oedd yn honni mai “lwc wael” oedd y rheswm pennaf dros rai mathau o ganser.

Er bod yr ymchwil wedi dangos bod rhai canserau â chysylltiadau cryf â ffordd o fyw rhywun, fel canser yr afu, sy’n cael ei achosi gan hepatitis C neu ganser yr ysgyfaint sy’n cael ei achosi gan smygu, roedd canserau eraill yn dod o namau ar raniadau celloedd.

Yn yr achosion hynny, roedd yr ymchwilwyr wedi dadlau y byddai canfod yr afiechyd yn gynnar a’i drin yn syth yn fwy effeithiol na’i atal yn y lle cyntaf.

Ffactorau amgylcheddol yn ‘bron pob achos’

Ond mae’r ymchwil newydd hwn yn dangos mai anaml iawn y bydd newidiadau mewn celloedd y corff yn arwain at achosi canser, hyd yn oed mewn meinweoedd lle mae’r celloedd yn rhannu’n aml.

Mewn bron pob achos, roedd y tîm wedi canfod bod angen ffactorau amgylcheddol i ddechrau’r afiechyd mewn corff person.