Syed Farook
Mae cyrff  gŵr a gwraig, a oedd wedi saethu 14 o bobol yn farw mewn canolfan  yng Nghaliffornia, wedi cael eu rhyddhau gan yr awdurdodau ac maen nhw bellach wedi’u claddu.

Yn ôl cyfreithwyr ar ran aelodau’r teulu, cafodd Syed Farook, 28 oed, a Tashfeen Malik, 29 oed, eu claddu ddydd Mawrth yn ne Califfornia.

Cafodd y ddau eu lladd gan yr heddlu  oriau ar ôl yr ymosodiadau ar 2 Rhagfyr yn ystod cinio mewn canolfan gwasanaethau cymdeithasol yn San Bernardino.

Mae’n debyg bod y cwpl wedi trafod jihad yn breifat cyn iddyn nhw briodi ond nid oes tystiolaeth i awgrymu eu bod nhw wedi datgelu hynny ar wefannau cymdeithasol, meddai cyfarwyddwr y FBI.