Mae Canolfan Wyddelig Efrog Newydd yn cynnal dathliad arbennig o’r diwylliant wrth i Wyddelod ar draws y byd ddathlu Dydd San Padrig heddiw (dydd Iau, Mawrth 17).

Fel rhan o’r digwyddiad 40 Shades of Green yn ardal Queens y ddinas, bydd perfformiadau cerddoriaeth a dawns wedi’u noddi gan Tourism Ireland.

Ymhlith y perfformwyr mae Amy Brett, Eoin Cannon, Darrah Carr Dance, Mary Deady, Connor Delves, Brendan Fogarty, Enda Gallery, Greg Harrington, Cathy Maguire, Peter Maguire, Kieran McCarthy, John McDermott, Tara O’Grady a Justin Poindexter, David O’Leary, Sean O’Neill, Colm Reilly, Karl Scully, Grace Tallon, Rachel Tucker, Fiona Walsh, a nifer o bobol ifanc gan gynnwys Ciara Duff, Ailish Long, Molly O’Loughlin ac ysgol ddawns McManus School of Irish Dance.

Dros y tridiau nesaf, bydd dathliad hefyd yn Efrog Newydd o gerddoriaeth bluegrass a’r cwlwm rhwng cerddoriaeth Wyddelig ac Americanaidd.

Ymhlith y prif artistiaid mae’r arbenigwr ar gerddoriaeth y gymuned ddu yn America, Jake Blount (banjo, ffidil, canwr), Allison de Groot a Tatiana Hargreaves, Tim Eriksen (Cold Mountain), Ebony Hillbillies, Hubby Jenkins a Megan Downes.

Y Taoiseach yn profi’n bositif am Covid-19 yn Efrog Newydd

Yn y cyfamser, mae Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, wedi profi’n bositif am Covid-19 yn Efrog Newydd.

Roedd disgwyl iddo gyfarfod â’r Arlywydd Joe Biden fel rhan o’r seremoni shamrock draddodiadol i ddathlu’r diwrnod a’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Roedd disgwyl iddo siarad yn y digwyddiad, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni ac sy’n cynnwys cinio mawreddog a gafodd ei gynnal neithiwr (nos Fercher, Mawrth 16), ond bu’n rhaid iddo adael ar ôl cael canlyniad y prawf.

Dydy hi ddim bellach yn glir a fydd gweddill y dathliadau’n parhau yn ei absenoldeb, ond fe allen nhw gael eu cynnal yn rhithiol pe bai angen.

Dathliadau yn Iwerddon

Yn nes at adref yn Iwerddon, mae llu o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad eto yn dilyn absenoldeb o ddwy flynedd yn sgil cyfyngiadau Covid-19.

Mae disgwyl i dorf o hyd at 40,000 o bobol heidio i strydoedd Dulyn ar gyfer parêd, ac i strydoedd nifer o ddinasoedd, trefi a phentrefi ar draws y wlad.

Ymhlith y gwesteion mae’r paffiwr Olympaidd Kellie Harrington a’r nofwraig baralympaidd Ellen Keane.

Bydd parêd arall yn Belfast yn dathlu Padrig ac Iwerddon.

Bydd digwyddiadau’n cael eu darlledu’n fyw ar deledu ar draws Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn ystod y dydd.