Cafodd miliynau o ddynion, menywod a phlant eu gorfodi i fod yn rhan o gaethwasiaeth rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bydd rhaglen arbennig ar ITV Cymru heno (nos Iau, Mawrth 17) yn archwilio rhan Cymru yn yr hanes.
Bydd Wales This Week: An Uncomfortable Truth yn trafod nifer o gymeriadau sy’n ganolog yn yr hanes a’r rhan maen nhw’n dal i chwarae yn y Gymru gyfoes.
Ar ôl i gofeb i Edward Colston, y masnachwr caethweision, gael ei dinistrio ym Mryste yn 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu archwiliad i effaith seicolegol caethwasiaeth yng Nghymru ac fe ddaethpwyd o hyd i 209 o gofebion i gaethwasiaeth yn y wlad.
Mae’r cofebion yn cynnwys cofgolofnau cyhoeddus, adeiladau a strydoedd sy’n dwyn enwau masnachwyr caethweision neu rai sydd wedi’u hamau o fod yn rhan o’r diwydiant neu o droseddau yn erbyn pobol ddu yn nyddiau’r Ymerodraeth Brydeinig.
Yn eu plith mae Syr Thomas Picton, sydd â 39 cofeb yn dwyn ei enw yng Nghymru, a’r rheiny’n amrywio o gofgolofnau i adeiladau a strydoedd yn ei enw.
Yn filwr uchel ei barch a gafodd ei glwyfo yn Waterloo, fe fu’n Llywodraethwr Trinidad yn y 1790au, ac roedd yn berchen ar gaethweision y gwnaeth e fanteisio arnyn nhw i wneud cryn elw, gan gynnwys arteithio merch 14 oed.
Gwaddol Picton
Yn Wales This Week heno (nos Iau, Mawrth 17), bydd y gohebydd Adeola Dewis yn archwilio’r gorffennol er mwyn darganfod i ba raddau roedd caethwasiaeth yn rhan greiddiol o gymdeithas y canrifoedd a fu.
“Ces i fy magu yn Trinidad, ac roedd gwaddol Picton yn adnabyddus ar yr ynys,” meddai.
“Ond Cymru yw fy nghartref bellach – mae ei hanes a’i threftadaeth yn rhan o bwy ydw i.
“Fel artist, dw i’n aml yn archwilio themâu hil a hunaniaeth.
“Ar hyn o bryd, dw i’n cydweithio ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar brosiect sy’n myfyrio ar gyfnod Picton yn Trinidad, a dw i eisiau darganfod sut mae cymunedau ledled Cymru’n ymateb i’r berthynas newydd sydd gennym â’r gorffennol – gorffennol sy’n cynnwys ffigurau fel Picton.”
Bydd hi’n teithio i Gaerfyrddin, lle mae cofgolofn 80 troedfedd i Picton ers 1847.
Yno, bydd hi’n siarad â’r Cynghorydd Alun Lenny, sy’n credu y byddai dileu hanes yn beth “peryglus”, er ei fod yn cydnabod fod rhaid gwneud mwy i fod yn onest ac yn agored am ein gorffennol.
“Cawsom ni ymgynghoriad yng Nghaerfyrddin, ac roedd rhyw 2,500 o bobol wedi ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw gan y Cyngor Sir,” meddai.
“Roedd y mwyafrif helaeth eisiau i’r gofgolofn aros yma.
“Ond wedyn, rydyn ni hefyd eisiau byrddau yma, a byddan nhw’n cael eu codi cyn bo hir, yn adrodd stori Syr Thomas Picton yn ei chyfanrwydd, y digwyddiadau yn Trinidad – yr ochr fwy tywyll yn ei hanes – yn ogystal â’r pethau mwy dewr y gwnaeth e mewn brwydr.”
Ond nid pawb sydd o blaid cadw’r gofeb, gan gynnwys yr artist lleol Emily Laurens, sydd wedi bod yn gyfrifol am brosiect digidol gyda myfyrwyr lleol sy’n herio’i bresenoldeb yn y dref.
Gan ddefnyddio ffonau symudol, mae’r prosiect yn ceisio dychmygu Caerfyrddin heb y gofeb.
Henry Morton Stanley
Ffigwr dadleuol arall yn hanes Cymru yw’r anturiaethwr Henry Morton Stanley.
Cafodd cofeb iddo ei dadorchuddio yn 2011.
Roedd ganddo fe gysylltiadau â’r Brenin Leopold o Wlad Belg, oedd â rhan fawr mewn ecsbloetio a chadw caethweision.
Ond mae’r Cynghorydd Gwyneth Kensler yn gefnogol o’r gofeb iddo ers y dechrau, gan fynnu nad oes sail i’r honiadau am y gorffennol.
“Roedd yn gas gan Stanley gaethwasiaeth,” meddai.
“Ond eto, mae yna bobol sy’n mynnu bod Stanley yn rhannol gyfrifol am yr erchylltra ofnadwy yn y Congo flynyddoedd ar ôl iddo fo adael.
“Doedd o ddim yn hiliol, dyn ei gyfnod oedd o a dyna sy’n rhaid i ni ei gofio.
“Roedd o’n gyfnod erchyll, ond doedd o ddim yn fwy erchyll na neb arall.”
I’r gwrthwyneb, mae’r artist Dr Wanda Zyborska yn gorchuddio’r gofeb â rwber bob blwyddyn fel rhan o brotest.
“Roedd rwber yn hynod werthfawr bryd hynny,” meddai.
“Roedd yn un o’r nwyddau y câi pobol eu gorfodi i’w gaffael o goedwigoedd y Congo.”
Ychwanega fod Stanley “wedi saethu ei ffordd drwy Affrica”, ac mae hi’n cwestiynu’r penderfyniad i osod cofeb iddo ond mae’n gwestiwn cymhleth, yn ôl y rhaglen.
Elwa ar gaethwasiaeth
Mae archifau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn dangos bod cryn elw i’w wneud o gaethwasiaeth yng Nghymru.
Yn ystod y rhaglen, mae Dr David Moore, sy’n gweithio fel archifydd yn y llyfrgell, yn trafod un ddogfen o Sir Benfro sy’n sôn mai 54 punt a deg swllt oedd y pris ar gyfer 100 o gaethweision, sy’n cyfateb i ryw ddeg swllt ar gyfer pob un o’r caethweision ac yn bris digon tebyg i’r hyn a fyddai’n cael ei dalu am dda byw.
Mater i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yw a ddylid gosod cofeb.
Yn ôl Adeola Dewis, mae sut mae pobol yn ymateb i faterion fel hyn yn adrodd cyfrolau am bwy ydyn ni fel Cymry.
“Ar fy nhaith ledled Cymru, dw i wedi sylweddol pa mor gymhleth yw ein hanes ni,” meddai.
“Mae wedi tanio dadl ffyrnig yn ein cymunedau, ond os ydyn ni am gael Cymru fwy cynhwysol, mae’n ddadl y mae’n rhaid i ni ei chael.”