Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi cyhoeddi pecyn ariannol i helpu busnesau i allforio i farchnadoedd tramor.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4m er mwyn creu allforwyr newydd a helpu busnesau sy’n allforio eisoes i ehangu.

Rhwng mis Medi 2020 a 2021, fe wnaeth cwmnïau o Gymru allforio gwerth £14.3bn o nwyddau.

Yn ôl ystadegau, mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yn yr allforion o Gymru i’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, er bod allforion o’r Deyrnas Unedig gyfan wedi gostwng.

Datblygu cysylltiadau

Fel rhan o’r Cynllun Gweithredu ar Allforio, a gafodd ei lansio yn 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu allforion ymhellach, yn ogystal â rhoi cymorth i allforwyr gryfhau yn dilyn y pandemig a Brexit.

Yn sgil y cyhoeddiad heddiw (dydd Iau, Mawrth 17), fe fydd y cyllid nawr yn galluogi’r Llywodraeth i barhau â nifer o raglenni newydd.

Un ohonyn nhw yw’r Rhaglen Allforwyr Newydd, sy’n lansio ym mis Ebrill gyda’r nod o geisio ysgogi busnesau i ddod yn allforwyr cyson.

Byddan nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau masnach tramor mewn nifer o wledydd ledled y byd, er mwyn annog busnesau i greu cysylltiadau masnachol mewn marchnadoedd newydd y tu allan i Gymru.

‘Creu proffil uwch i ddiwydiant Cymru’

Mae Vaughan Gething yn siarad heddiw yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru yng Nghaerdydd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i helpu busnesau Cymru i dyfu, gan eu helpu i greu swyddi newydd yn nes adref a rhoi hwb i economi Cymru,” meddai.

“Mae allforio yn ffordd wych o wneud hynny, a dyna pam rydyn ni am annog rhagor o fusnesau o Gymru i allforio’u nwyddau a’u gwasanaethau’n rhyngwladol.

“Bydd y rhaglen gynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gymorth allforio dw i’n ei chyhoeddi heddiw ar gyfer 2022/23 yn ein helpu i wireddu’r ymrwymiadau a wnaed gennym yn ein Cynllun Gweithredu ar Allforio ar gyfer Cymru, drwy gefnogi twf ein heconomi drwy gynyddu allforion o Gymru ’nawr ac yn y tymor hwy.

“Mae gennym gynifer o gynhyrchion a gwasanaethau unigryw ac arloesol yma yng Nghymru.

“Rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i arddangos ar lwyfan byd-eang er mwyn datblygu cyfleoedd masnachu rhyngwladol a chreu proffil uwch i ddiwydiant Cymru yn rhyngwladol.”