Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi annog gwledydd y byd i fabwysiadu’r fargen gynta’ erioed ar newid yn yr hinsawdd, gan ddweud y byddai’n gam anferth yn hanes y ddynoliaeth.

Mewn araith sy’n ymddangos wedi’i thargedu at y gwledydd hynny sy’n gyndyn o arwyddo’r cytundeb, fe alwodd yr Arlywydd ar weinidogion i wneud y dewis cywir ar ran eu gwlad, eu cyfandir, “ond hefyd ar ran y byd”, fel bod Rhagfyr 12 yn ddyddiad fydd yn cael ei gofio am byth.

Mae’r drafft ola’ o’r cytundeb a gafodd ei lunio yn ystod trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ym Mharis, yn cynnwys targed i gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd “ymhell o dan” dwy radd Celsiws, ac mae’n addo anelu at gyfyngu’r cynnydd i 1.5 gradd.

Mae’r ddogfen 20 tudalen hefyd yn cynnwys system adolygu fesul 5 mlynedd er torri i lawr ar allyriadau carbon, gan gymharu’r ffordd y mae gwledydd gwahanol yn taclo’r broblem. Mae hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ariannu’r gwaith mewn gwledydd tlawd.

“Mae Hanes yma gyda ni,” meddai Francois Hollande.