Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth, ar ôl iddyn nhw gael eu hachub o dân yng Nghaerffili.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ymladd y fflamau toc cyn 10.30yb heddiw, a hynny i gyfeiriad yn ardal Pwll-y-pant. Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o Aberbargoed a Chaerffili eu hanfon i’r digwyddiad.

Mae’r ddau sy’n derbyn triniaeth yn diodde’ o effeithiau anadlu mwg.