Mae o leia’ wyth o bobol wedi cael eu lladd wedi i fom mewn car ffrwydro yn ninas Homs yn Syria.

Yn ôl adroddiadau gan asiantaeth newyddion Sana, fe gafodd 25 o bobol eu hanafu hefyd yn y digwyddiad, tra bod ffynonellau eraill yn dweud bod y ffigwr cyn uched â 35.

Fe ffrwydrodd y ddyfais ger ysbyty yn ardal Zahra yn y ddinas, gan achosi tipyn o ddifrod i adeiladau.

Ac fe ddigwyddodd ychydig ddyddiau wedi i gannoedd o wrthryfelwyr a’u teuluoedd adael Waer, yr ardal ola’ yn Homs lle’r oedden nhw mewn grym, a hynny fel rhan o gytundeb lleol a fydd yn adfer rheolaeth y llywodraeth dros y lle.