Michael Fallon
Mae’r syniad fod gwneud safiad yn erbyn terfysgaeth yn rhoi’r Deyrnas Unedig mewn mwy o beryg, yn un “anghywir”, meddai Ysgrifennydd Amddiffyn llywodraeth San Steffan.

Yn ôl Michael Fallon, roedd y bleidlais o blaid bomio Syria o’r awyr yn “foment bwysig” yn yr ymgyrch ryngwladol yn erbyn eithafwyr.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod ymweliad â’r Pentagon yn America, gan ddisgrifio perthynas y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau fel un “gref”.

“Yr Unol Daleithiau, o hyd, ydi partner strategol agosa’r Deyrnas Unedig,” meddai, “ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo diogelwch y byd, i ofalu am ein diddordebau cyffredin, ac i ddelifro ffyniant i’n pobol.”