Mae elusen sy’n cynnig cymorth dyngarol i bobol yng nghanol trychinebau, wedi troi ei olygon tua llifogydd Cumbria.
Mae ‘Serve On’, sydd a’i bencadlys yn swydd Wiltshire, wedi anfon tim o 17 o bobol i helpu clirio’r strydoedd ac i gefnogi trigolion Keswick a’r ardal sydd wedi diodde’ yn sgil stormydd a glaw trwm.
Bwriad yr elusen, meddai, ydi cael pobol yn ôl ar eu traed cyn y Nadolig, ac i ysgafnhau ychydig ar y baich o glirio mwd a baw o gartrefi. Fe fydd yr henoed a’r bobol fregus yn cael blaenoriaeth.
Mae siop fawr B&Q wedi rhoi gwerth £1,000 o oleuadau, offer diogelwch ac offer i’r elusen, er mwyn gwneud y gwaith.
“Mae’r cyfnod hwn cyn y Nadolig yn adeg ofnadwy i’r tywydd droi tu min fel hyn,” meddai llefarydd ar ran ‘Serve On’. “Fe fyddwn ni’n gwneud pob peth o fewn ein gallu i helpu’r cymunedau ar yr adeg hon.”