Mae beth bynnag chwech o bobol wedi’u lladd wedi ymosodiad gan y Taliban ger llysgenhadaeth Sbaen ym mhrifddinas Afghanistan.

Lladdwyd pedwar o blismyn, ynghyd â dau oedolyn arall, yn Kabul. Fe gafodd saith o bobol gyffredin a dau blismon arall, eu hanafu.

Ymhellach, fe gafodd 12 o ddinasyddion tramor eu hachub gan luoedd Afghanistan yn ystod y digwyddiadau.

Mae llefarydd ar ran y Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn ardal Shir Pur yn Kabul, sef yr ardal lle mae nifer o westai, cartrefi gwleidyddion pwerus, a sawl llysgenhadaeth dramor.