Mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi mai bysiau fydd yn cario teithwyr rhwng gorsafoedd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog, gan llifogydd ar y lein.

Mae glaw trwm yn golygu fod y lein rhwng y ddwy dre’ dan ddwr, ac mae’n amhosib cynnal y gwasanaeth trên rhwng gorsafodd Gogledd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog.

“Am hynny, mae gwasanaeth bws yn rhedeg,” meddai datganiad Arriva.

Mae Swyddfa’r Met wedi cyhoeddi rhybudd glaw trwm ar gyfer heddiw, gyda phosibilrwydd hefyd o eira ar dir uchel.