Mae staff Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn rhoi syniad anghyffredin i bobol o sut beth ydi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd trwy gyfres o gyfweliadau diflewyn-ar-dafod sydd ar gael i’w gwylio ar YouTube.
Mae’r fideo, a gafodd ei gynhyrchu fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i ddeall yn well yr heriau mae ei staff rheng flaen yn eu hwynebu, hefyd yn rhoi sylw i deimladau’r staff am brosiect Blaen Tŷ newydd gwerth £1.4m.
Gofynnwyd i staff rhoi barn onest o flaen y camera am y ffordd a ddarperir gwasanaethau ar hyn o bryd, a sut roedden nhw’n teimlo y byddai’r prosiect Blaen Tŷ yn gwneud gwahaniaeth.
Ymhlith y bobl a gafodd eu cyfweld oedd Dr Robin Ghosal, Arweinydd Clinigol Ysbyty Tywysog Philip, a fu’n canmol y ffordd mae’r prosiect yn cael ei arwain gan glinigwyr sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr hyn sydd wir ei angen ar gleifion.
“Beth sy’n arbennig o dda am hyn yw’r ffaith ein bod ni’n dod i’r prosiect o gefndiroedd gwahanol, ac mae hynny’n gyffrous gan fod ein holl safbwyntiau wedi alinio i mewn i un amcan – sef darparu gofal o’r radd uchaf i gleifion â salwch meddygol acíwt neu fân anafiadau.
“Y canlyniad yw rhywbeth cyffrous, deinamig, arloesol, a rhywbeth y gellir ei ailgreu – nid yn unig mewn rhannau eraill o Gymru, ond hefyd mewn rhannau eraill o’r DU o bosibl, a dylai gynnal lefel uchel o gynaliadwyedd a hyfforddiant penigamp i feddygon a nyrsys.”
Ychwanegodd Dr Mark Andrews, Cofrestrydd arbenigol mewn Meddygaeth Anadlol a Chyffredinol: “Dw i wedi bod yn y gwaith ers dwy flynedd, a dw i wedi gweld yn aml fod datgysylltiad rhwng yr hyn sy’n digwydd pan fo cleifion yn cael sylw gyntaf yn yr adran damweiniau ac achosion brys a’r gwerthusiad a’u rheolaeth gan y tîm meddygol.
“Dw i’n credu bod potensial i gleifion elwa ar gael sylw meddyg neu dîm meddygol o’r cychwyn cyntaf, a fydd yn rheoli’r claf hwnnw ar y ward, a chan gydweithio fel tîm o’r blaen bydd y claf ar ei ennill, yn hytrach na bod angen ei brysbennu yn yr uned damweiniau ac achosion brys a’i gyfeirio ymlaen, gan olygu bod oedi yn yr hyn sydd ei angen ar y claf nes i’r atgyfeiriad ddigwydd.”
Mae’r fideo, a gafodd ei greu gan dîm Cyfathrebu’r bwrdd iechyd, yn dilyn menter debyg yn Ysbyty Llwynhelyg, sydd hefyd ar gael i’w weld ar YouTube.
Yn y fideo nesaf fydd staff sy’n gweithio yn Ysbyty Bronglais, Aberyswtyth, gan ganolbwyntio ar sut beth yw gweithio mewn ysbyty gwledig yn ystod y gaeaf. Bydd y Bwrdd yn ymweld ag ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, yn ogystal â lleoliadau cymunedol, gofal sylfaenol ac iechyd meddwl yn ystod 2016 i siarad â mwy o’r staff.
I weld fideo Ysbyty Tywysog Philip, cliciwch yma. I weld fideo Ysbyty Llwynhelyg, cliciwch fan hyn.