Efallai bod merched yn cael pleidleisio eleni, ond dydyn nhw ddim yn cael gyrru ceir yn Sawdi Arabia
Mae merched yn cael cymryd rhan mewn etholiad yn Sawdi Arabia heddiw – fel ymgeiswyr ac fel pleidleiswyr.

Mae mwy na 5,000 o ddynion a thua 980 o ferched yn sefyll fel ymgeiswyr am seddi ar gynghorau lleol, tra bo 130,000 o ferched wedi cofrestru i bleidleisio. Fe fydd 1.35 miliwn o ddynion yn bwrw eu croes y penwythnos hwn.

Mae’r etholiad yn cael ei weld fel troed yn y drws ar gyfer menywod, ac yn gam sylweddol ymlaen i gyfartaledd i ferched o fewn y gymdeithas.

Y cynghorau lleol ydi’r unig gorff llywodraethol yn Sawdi Arabia lle mae gan ddinasyddion y wlad yr hawl i ethol eu cynrychiolwyr. Dyma’r trydydd tro yn unig o fewn degawdau pryd y mae dynion wedi cael pleidleisio yno.

Yn unol â rheolau sy’n gwahanu dynion a merched yn Sawdi Arabia, fe fydd dynion a merched yn pleidleisio mewn canolfannau ar wahân.